Gwarchodlu Cymreig yn dathlu'r 100

gwarchodlu
Image caption Mae'r gatrawd wedi gwasanaethu mewn nifer o wrthdrawiadau a rhyfeloedd

Fe fydd gwasanaeth i ddathlu 100 mlynedd ers sefydlu'r Gatrawd Gwarchodlu Cymreig, yn cael ei gynnal ddydd Sul.

Mae disgwyl i nifer o aelodau'r gatrawd a chyn-filwyr i ddod ynghyd yn Eglwys Gynulleidfaol Saron, Tredegar.

Daeth y Gwarchodlu Cymreig i fodolaeth ar 26 Chwefror, 1915 trwy Warant Brenhinol gan Frenin Siôr V.

Dyma'r gatrawd warchodol olaf i gael ei chreu ym myddin Prydain, gyda'r Gwarchodlu Gwyddelig yn dod i fodolaeth yn 1900.

Ar ôl dim ond tri diwrnod o fod mewn bodolaeth, fe gafodd y Gwarchodlu Cymreig eu galw i gyflawni eu dyletswyddau cyntaf, sef i warchod y Brenin ym Mhalas Buckingham ar ddydd Gŵyl Dewi 1915.

Mae'r gatrawd wedi gwasanaethu mewn nifer o ryfeloedd, gan gynnwys y ddau ryfel byd, rhyfel y Falklands a'r gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd Caplan y gatrawd, Pierre Cornlouer: "Mae croeso i bawb ymuno â ni yn y dathu, mae croeso arbennig i deuluoedd a ffrindiau'r gatrawd.

"Rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr yn ymuno a ni i gofio'r gorffennol ac i ddathlu'r presennol. Rydym yn gofyn i gyn-filwyr wisgo eu medalau a'u berets."