Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru a Lloegr yn barod amdani

Chris Robshaw a Sam Warburton Image copyright Getty Images

Bydd Cymru a Lloegr yn cyfarfod mewn gêm allai fod yn hollbwysig nos Sadwrn - gêm allai benderfynu pwy fydd yn mynd trwodd o'u grŵp yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Mae'r timau sy'n ail (Awstralia), trydydd (Lloegr) a phedwerydd (Cymru) yn netholion rygbi'r byd yn brwydro i fod y ddau dîm fydd yn mynd trwodd o'r grŵp i'r rownd gogynderfynol.

Mae Lloegr wedi dewis Owen Farrell yn hytrach na George Ford i reoli'r gêm o safle'r maswr, tra bo'r mewnwr Gareth Davies yn dechrau am yr eilwaith yn unig i Gymru.

Mae Warren Gatland yn methu nifer o chwaraewyr allweddol ar gyfer y gystadleuaeth, gan gynnwys y mewnwr Rhys Webb, y canolwr Jonathan Davies a'r cefnwr Leigh Halfpenny.

Bydd enillwyr y gêm yn cymryd cam enfawr tuag at gyrraedd y rownd nesaf, gyda'r tîm sy'n colli yn debygol o orfod trechu Awstralia i osgoi gadael y gystadleuaeth yn gynnar.

'Tîm diddorol'

Roedd newyddion da i Gymru yn ystod yr wythnos wrth i'r cefnwr Liam Williams a Samson Lee wella o anafiadau gafodd eu dioddef yn y fuddugoliaeth o 54-9 yn erbyn Uruguay.

Fe ddisgrifiodd gyn-faswr Cymru Jonathan Davies benderfyniadau Gatland fel rhai "diddorol".

"Gêm fawr i Hallam Amos, a syndod peidio gweld Justin Tipuric yn dechrau," meddai.

Mae Cymru a Lloegr wedi cyfarfod ddwywaith o'r blaen yng Nghwpan Rygbi'r Byd, yn 1987 a 2003, gydag un fuddugoliaeth yr un.

Image caption Gareth Davies, Liam Williams a Hallam Amos - Ai'r rhain fydd y chwaraewyr allweddol?

Cymru: Liam Williams; George North, Scott Williams, Jamie Roberts, Hallam Amos, Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert.

Lloegr: Mike Brown; Anthony Watson, Brad Barritt, Sam Burgess, Jonny May, Owen Farrell, Ben Youngs; Joe Marler, Tom Youngs, Dan Cole, Geoff Parling, Courtney Lawes, Tom Wood, Chris Robshaw (capten), Billy Vunipola.

Eilyddion: Rob Webber, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, James Haskell, Richard Wigglesworth, George Ford, Alex Goode.

Gallwch ddilyn yr holl gyffro ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 19:30 nos Sadwrn. Ble fyddwch chi yn gwylio'r gêm? Gyrwch eich lluniau at cymrufyw@bbc.co.uk

Straeon perthnasol