Hajj: Pererinion yn ddiogel

Image copyright EPA
Image caption Roedd pobl o Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd ymhlith y miloedd yn Mecca.

Mae arweinwyr y gymuned Fwslemiaid yng Nghymru wedi dweud bod pedwar grŵp o deithwyr o Gymru yn ddiogel yn dilyn eu pererindod i Mecca.

Roedd tua 250 o bobl wedi teithio o Gymru i Saudi Arabia ar gyfer pererindod y Hajj.

Roedden nhw ymhlith 2,000,000 o bererinion yn cymryd rhan yn nefod fawr olaf yr Hajj yn Mina pan ddigwyddodd rhuthr yng nghanol torf yn y ddinas.

Lladdwyd o leiaf 769 o bobl ac anafwyd tua 934.

Yn ôl Cyngor Mwslemiaid Cymru roedden nhw wedi cael trafferth cysylltu ag un grŵp o Gaerdydd, dau grŵp o Gasnewydd ac un grŵp o Abertawe.

Erbyn hyn deellir fod pob un o'r grwpiau yma wedi cadarnhau eu bod yn ddiogel.