Caerdydd yn taro 'nol i guro Charlton

Image copyright Getty Images
Image caption Russell Slade yn cyfarch y cefnogwyr

Caerdydd 2-1 Charlton

Mae Caerdydd wedi esgyn i'r pumed safle yn Y Bencampwriaeth ar ôl ennill 2-1 yn erbyn Charlton Athletic.

Yr ymwelwyr Charlton aeth ar y blaen ar ôl i'r eilydd Karlan Ahearne-Grant yn rwydo reit ar ddechrau'r ail hanner.

Ond bedwar munud yn ddiweddarach fe'r oedd Yr Adar Gleision yn gyfartal diolch i bedwaredd gôl Joe Mason o'r tymor.

Ac yna efo chwarter awr o'r gêm ar ôl fe sgoriodd Sean Morrison beniad o groesiad Peter Whittingham i roi tîm Russell Slade ar y blaen.

Taith i Brighton, sydd ar y brig, sy'n wynebu Caerdydd ddydd Sadwrn nesaf. Ond mi fydden nhw'n teithio yno'n llawn hyder ar ôl y fuddugoliaeth yma.