Seiliau'r Gymraeg yn Soar

Lis McLean yn derbyn gwobr 'Rhagoriaeth Menter Gymdeithasol' yn noson Gwobrau Busnes Merthyr
Image caption Lis McLean yn derbyn gwobr 'Rhagoriaeth Menter Gymdeithasol' yn noson wobrwyo Clwb Busnes Merthyr eleni

Mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu bod Canolfan Soar, Merthyr Tudful yn cyfrannu gwerth tua £1 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, ond hanes bersonol sydd i sefydlu'r ganolfan.

Lis McLean gafodd y syniad gwreiddiol am adnewyddu'r ganolfan, am resymau personol iawn iddi hi. Mae hi wedi bod yn sôn am y mynydd oedd yna i'w ddringo wrth Cymru Fyw:


Mae sefydlu canolfan iaith yn dipyn o fenter. Sut ddaeth y syniad?

Ro'dd 'na ganolfan Gymraeg ym Merthyr ymhell cyn fy amser i. Cafodd honno ei sefydlu yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mharc Cyfarthfa yn 1987. Fe wna'th hi agor yn swyddogol yn 1991 ac ro'dd hi'n cael ei rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr tan daeth y Fenter Iaith i fodolaeth yn 2003.

Dechreuais i weithio yma yn Soar fel Swyddog Datblygu pryd 'ny ac un o'm pryderon cyntaf oedd cyflwr yr adeilad.

Mae Capel Soar yn bwysig iawn yn hanes y Gymraeg ym Merthyr, gan fod un o flaenoriaid y capel yn y 1890au wedi datgan fod rhaid i ni sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i siarad Cymraeg o fewn y capel. Ar y pryd ro'dd yna bwysau cynyddol i beidio siarad Cymraeg y tu fas iddi.

Image caption Llun wnaeth ysgogi'r prosiect: Mam Lis (ar y chwith) gyda Lis yn blentyn yn eistedd o flaen y cwpwrdd wnaeth oroesi amser

Ond mae gan yr adeilad gysylltiad teuluol agos i mi, gan bod fy mam yn un o sylfaenwyr y Cylch Meithrin yn y Ganolfan.

Ro'dd mam yn helpu Mari Davies, y wraig 'naeth sefydlu'r Cylch, ac un diwrnod, wrth edrych ar hen gwpwrdd yn y Ganolfan cofiais am hen lun o mam gyda'r Cylch.

Mae'r llun yn dangos mam gyda'r plant, gan gynnwys fi yn y canol, o flaen y cwpwrdd. Roedd y cwpwrdd a'r Ganolfan wedi goroesi, ond wedi gweld dyddiau gwell a mi 'nes i benderfynu ceisio gwneud rhywbeth am y peth.

Felly es i ati i gynllunio prosiect i adnewyddu'r Ganolfan Gymraeg a datblygodd y prosiect dros amser o brosiect £700,000 i ddatblygu festri Capel Soar i fod yn brosiect £1.4 miliwn er mwyn troi'r capel i fod yn theatr.

Image caption Capel Soar, cyn y gwaith adnewyddu

Beth oedd ymateb dy gyd weithwyr a dy deulu?

Dwi'n cofio'r cyfarfod pwyllgor pan wnes i gyflwyno'r cynllun ar dudalen A4. I ddweud y gwir, doedd y Pwyllgor Rheoli ddim yn gefnogol i ddechrau. "Rhy uchelgeisiol" a "Gormod o risg" oedd yr ymateb.

Pan wnes i ddechre ar y cynllun do'n i ddim yn syweddoli faint o ymrwymiad personol oedd e. Doedd hynny ddim yn ystyriaeth. Mae rhaid i mi ddweud dwi'n teimlo weithiau bod y teulu wedi dioddef!

Fe safodd Delyth (fy merch) lan ar noson agoriadol y theatr i ganu 'Ar Lan y Môr' (fel syrpreis i Mam), roedd hi'n 19 ar y pryd, a dywedodd hi "dydy Mam ddim wedi bod o gwmpas lot am y chwe blynedd diwethaf". Er hynny mae Bethan (fy merch arall) a Delyth o hyd yn dweud pa mor falch mae nhw ohono i ac o Ganolfan Soar.

Oedd gyda ti unrhyw brofiad oedd yn ddefnyddiol i redeg prosiect fel hwn?

Dim rili! Dyna'r tro cyntaf i mi sgrifennu cynllun busnes, y tro cyntaf i mi sgrifennu cais am arian a'r tro cyntaf i wneud llawer iawn o bethau eraill.

O ddelio gydag adran gynllunio, a datblygu cynlluniau gyda'r pensaer, i reoli prosiect adeiladu a dewis celfi i'r adeilad! Roedd popeth yn brofiad newydd i mi. Does dim syndod roedd y pwyllgor yn meddwl bod e'n uchelgeisiol ar y pryd!

Y cam cyntaf oll oedd sicrhau cefnogaeth y gymuned a'r Cyngor Sir. Mae'n swnio'n hawdd ond mae'n broses hir sydd yn cynnwys magu perthnasau da a chryf â phartneriaethau gweithredol, tua dwy flynedd o waith!

Pa elfennau doeddet ti ddim yn disgwyl gorfod dygymod â nhw?

Doeddwn i ddim yn disgwyl i'r holl broses fod mor wleidyddol. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pwysigrwydd ffitio mewn i strategaethau lleol a chenedlaethol. Dwi wedi dysgu gymaint. Y cwbwl oedd ar fy meddwl i oedd cyflawni beth oeddwn i'n gweld fel rhywbeth oedd angen ar y gymuned.

Roeddwn i'n benderfynol o lwyddo. Pob tro ro'dd 'na anhawster yn codi wnes i jyst meddwl, o wel mae e'n mynd i gymryd mwy o amser eto.

Gefaist di gefnogaeth dda?

Do yn enwedig gan Dyfrig Morgan ac Anne England. Ro'n nhw yn aelodau o'r pwyllgor sefydlodd y Ganolfan Gymraeg yn 1991. Roedd yr holl bwyllgor yn gefnogol iawn hefyd. Hefyd, roedd 'na lu o bobl tu ôl i mi yn cynnwys swyddogion grant, swyddogion cyngor, cynghorwyr, sefydliadau cymorth, y contractwyr ac wrth gwrs partneriaid a rhanddeiliaid.

Faint o amser wnaeth hi gymryd o'r dechrau i'r diwedd?

Ar ddechrau'r prosiect yn 2005 wnes i ragweld y byddai'n cymryd dwy flynedd. Dwy flynedd mewn i'r prosiect wnes i feddwl byddai dwy flynedd arall yn ddigon i'w weld e'n cael ei wireddu.

Gawson ni sawl problem ar hyd y daith - perchnogaeth y capel, perchnogaeth tir, gwleidyddion a stress!

Fe gymerodd hi chwe blynedd yn y diwedd - o'r cyfarfod cyntaf gyda'r pwyllgor i grybwyll y syniad i'r diwrnod wnaethon ni agor yn swyddogol yn 2011.

Lawr yn y Cylch Meithrin newydd mae'r hen gwpwrdd wnaeth ysgogi'r cyfan. Mae wedi cael cot o baent, ac mae dal yn sefyll, ac yn cadw nwyddau'r Cylch yn barod i'r genhedlaeth nesaf.

Image caption Y Ganolfan heddiw

Straeon perthnasol