Dyn o Bowys yn gwadu llofruddio Craig Thomas Savage

Craig Thomas Savage Image copyright Dyfed-Powys Police
Image caption Bu farw Craig Thomas Savage yn dilyn y digwyddiad yn Llandrindod

Mae dyn o Bowys wedi gwadu llofruddio, wedi iddo gael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad yn Llandrindod.

Fe wnaeth Mark Leigh Thomas, 25 oed o Landrindod, bledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Bu farw Craig Savage ar 5 Gorffennaf yn dilyn digwyddiad ar Heol y Deml yn y dref.

Bydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Hydref, ac mae disgwyl i`r achos ddechrau ym mis Mawrth 2016.

Fe gafodd Mr Thomas ei gadw yn y ddalfa.