Lleidr wedi bygwth staff â dryll yn Abertawe

CCTV Image copyright Handout
Image caption Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau o ddyn maen nhw eisiau siarad â mewn cysylltiad â'r digwyddiadau

Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi i leidr ddwyn o siop yn Abertawe gan ddefnyddio'r hyn y mae'r heddlu'n credu oedd yn ddryll..

Fe wnaeth y dyn ddianc gydag arian ar ôl bygwth gweithiwr yn siop CK ar Heol Abertawe yn Waunarlwydd am 21:00 ddydd Sul.

Fe ddigwyddodd lladrad tebyg yn siop Lifestyle ar Heol Fictoria, ond ni lwyddodd y lleidr i ddianc gydag unrhyw arian yn y digwyddiad.

Mae Heddlu'r De wedi rhyddhau lluniau camera cylch cyfyng o ddyn maen nhw am ei holi mewn cysylltiad â'r ddau ddigwyddiad.