Hook ac Anscombe wedi eu galw i garfan Cymru

Hook ac Anscombe
Image caption Mae Hook wedi ennill 78 cap, ond dim ond unwaith mae Anscombe wedi cynrychioli Cymru

Mae James Hook a Gareth Anscombe wedi eu hychwanegu i garfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd wedi i Scott Williams a Hallam Amos gael eu hanafu.

Gall Hook, 30 oed, chwarae fel maswr, canolwr neu gefnwr, tra bo Anscombe, sy'n chwarae i'r Gleision, yn gyfforddus fel maswr neu gefnwr.

Mae Hook, sy'n chwarae i Gaerloyw, wedi ennill 78 cap dros ei wlad, ond dim ond unwaith mae Anscombe, yn wreiddiol o Seland Newydd, wedi cynrychioli Cymru.

Fe gafodd y cefnwr Liam Williams ei daro'n anymwybodol yn y fuddugoliaeth o 28-25 dros Loegr nos Sadwrn - yr un gêm welodd Scott Williams yn cael anaf i'w goes ac Amos yn datgymalu ei ysgwydd.

Bydd Liam yn methu'r gêm yn erbyn Fiji ddydd Iau, ond gallai fod yn ôl i wynebu Awstralia ar 10 Hydref.

Daeth hwb i Warren Gatland ddydd Llun gyda'r newyddion bod asgellwr dylanwadol Fiji, Nemani Nadolo, wedi ei gael yn euog o chwarae budr yn erbyn Awstralia ac y bydd wedi'i wahardd o'r gêm yn erbyn Cymru ddydd Iau.

Nadolo sydd wedi sgorio 16 o'r cyfanswm o 24 o bwyntiau y mae Fiji wedi sgorio hyd yma yn y gystadleuaeth.

Image copyright PA
Image caption Fe gafodd y cefnwr Liam Williams ei daro'n anymwybodol yn y fuddugoliaeth yn Twickenham

Am fwy o gyffro Cwpan Rygbi'r Byd ewch i'n is-hafan arbennig.