Trafod ysgol Gymraeg newydd i Bowys

Llanfair Caereinion
Image caption Baner yn Llanfair Caereinion

Bydd Cabinet Cyngor Powys yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod y posibilrwydd o agor yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn y sir. Ar hyn o bryd mae addysg Gymraeg ar gael mewn chwech o ysgolion dwy ffrwd.

Powys yw un o'r ychydig siroedd yng Nghymru sy heb ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ac mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn siomedig nad oes cynlluniau pendant mewn lle eto ar ol blynyddoedd o drafod.

Ond mae 'na gefnogwyr hefyd i'r drefn bresennol - maen nhw'n dweud fod y patrwm o ysgolion dwy ffrwd yn adlewyrchu natur y sir yn well.

Cyd-destun trafodaeth Cabinet Powys yw diffyg arian a gostyngiad yn nifer y disgyblion.

Mae adroddiad ar addysg uwchradd ar draws Powys wedi dweud y dylai'r cyngor gau o leiaf dair o'r deuddeg ysgol uwchradd sydd ganddo ar hyn o bryd.

Ymgynghoriad

Wrth adolygu addysg uwchradd yng ngogledd Powys fe gomisiynodd y Cyngor gwmni o ymgynghorwyr i edrych ar yr angen am ysgol Categori 2A yn yr ardal - ysgol yw hon lle mae o leia 80% o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddai hyn yn wahanol i'r drefn bresennol lle mae addysg Gymraeg ar gael mewn hanner dwsin o ysgolion dwy ffrwd.

Mae'r ymgynghorwyr wedi cyflwyno eu hadroddiad i'r Cabinet ac maen nhw'n argymell y dylai'r cyngor sefydlu un neu fwy nac un ysgol categori A yn Sir Drefaldwyn, ond bod angen cyflwyno'r newid yma'n raddol a gwneud mwy o waith cyn penderfynu ar leoliad neu leoliadau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg dynodedig.

Mae'r galwadau dros addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys wedi bod yn dwysau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi dweud fod hyn yn gyfle euraidd i drawsnewid addysg Gymraeg yn y sir.

RhAG

Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi ysgrifennu at aelodau cabinet Cyngor Powys yn galw ar yr aelodau i fabwysiadu'r egwyddor mai ysgolion Cymraeg penodedig yw'r model gorau wrth gyflwyno addysg uwchradd Gymraeg ym Mhowys.

Dywedodd Ceri Owen, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG: "Ers cryn amser, daeth yn amlwg nad yw'r gyfundrefn bresennol yn gynaliadwy, naill ai'n addysgol, ieithyddol nac yn ariannol.

"Nid yw'r drefn fel y mae yn darparu cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion Powys dderbyn addysg uwchradd gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg, ar hyn o bryd, teithio allan o'r sir yw'r unig ffordd o gael mynediad at ddarpariaeth o'r fath.

"Byddai sefydlu ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf Powys yn torri'r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd.

"Mae RhAG eisoes wedi mynegi barn yn gyhoeddus ar hyn, gan fanylu bod angen mwy nag un ysgol er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon."

Image copyright Jaggery/Geograph
Image caption Pencadlys Cyngor Powys

Agenda

Ond mae rhai ymgyrchwyr ym Mhowys yn rhwystredig nad oes trafodaeth fwy pendant ar yr agenda ddydd Mawrth yn hytrach na dim ond cynnig i dderbyn yr angen i agor ysgol Gymraeg mewn egwyddor.

Un ohonyn nhw yw Elwyn Vaughan. Dywedodd Mr Vaughan: "Mae Powys yn sir sy'n cael ei gweld mewn sawl ffordd fel sir sydd ar ei hol hi - yr unig sir sydd, i bob diben, heb ysgol uwchradd benodedig Gymraeg.

"Maen nhw'n ymgynghori bob rhyw bum mlynedd ar y syniad o agor ysgol Gymraeg ac wedyn yn gohirio gwneud penderfyniad.

"Mae angen cefnogi'r egwyddor yn llwyr, ond y cwestiwn ydy a fydd yna weithredu er mwyn troi'r egwyddorion yn reality ar lawr gwlad."

Mae 'na gefnogaeth i'r drefn bresennol - yn Llanfair Caereinion, lle mae un o ysgolion dwy ffrwd Powys, mae rhai rhieni wedi casglu deiseb o 700 o enwau yn galw ar y cyngor i gadw pethau fel y maen nhw. Hefyd yng nghanol y dref mae baner sy'n dweud 'Ysgol Ddwyieithog ar gyfer Cymuned Ddwyieithog'.

'Cydymdeimlad'

Mae John Ellis, cyn-brifathro Ysgol Uwchradd Caereinion, yn deall dwy ochr y ddadl: "Mae gen i gydymdeimlad gyda'r ddwy ochr. Ond mae Powys yn wahanol i siroedd eraill lle mae ysgolion Cymraeg - mae hi mor fawr, ac mae hi mor bell i ddisgyblion i ddod i un ysgol Gymraeg.

"Hefyd dw i'n gweld mewn ysgol ddwyieithog, mae'n syndod faint o blant sy'n dod ataf i i ddweud pa mor falch maen nhw o fod wedi bod yn ysgol Llanfair, gan ei bod nhw wedi cael deall yr iaith a'r diwylliant yn well o fod mewn ysgol ddwy ffrwd."

Trafodaeth o egwyddor fydd ynglyn ag addysg Gymraeg yng ngogledd Powys, ond ymhellach i'r de mae cynlluniau mwy pendant dan sylw. Ddydd Mawrth hefyd fe fydd y Cabinet yn trafod cynnig i gau'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu a chanoli'r ddarpariaeth Gymraeg yn y ffrwd yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt.