Ffermio
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Rhaid talu grantiau ffermio Ewrop ar amser'

29 Medi 2015 Diweddarwyd 21:22 BST

Bydd diwydiant ffermio Cymru yn wynebu problemau mawr os na fydd grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu talu ar amser.

Dyna'r neges gan ymgynghorydd amaeth sy'n poeni y gall nifer o fusnesau ffermio fynd i'r wal os fydd y taliadau'n hwyr eleni.

Roedd hi'n bosib y byddai ffermwyr yn cael yr arian yn gynnar, ond yn dilyn her gyfreithiol bosib gan grŵp o ffermwyr, mae hynny'n edrych yn annhebygol iawn. Adroddiad Teleri Glyn Jones.