Cyngor teithio yng Nghaerdydd cyn gêm rygbi Seland Newydd

Bws

Bydd gwasanaethau bws cyfyngedig yn cael ei weithredu yng Nghaerdydd ddydd Gwener, a hynny cyn y gêm Cwpan Rygbi'r Byd rhwng Seland Newydd a Georgia yn Stadiwm y Mileniwm.

Dydd Gwener yw ail ddiwrnod streic 48 awr sydd wedi ei threfnu gan aelodau undeb Unite ar ôl gwrthod cynnig diweddaraf cwmni Bysiau Caerdydd, mewn anghydfod dros gyflog.

Mae penaethiaid y cwmni wedi ymddiheuro, gan ddweud y bydd gwasanaeth bws cyfyngedig ar gael.

Mae trefniadau teithio ar gyfer cefnogwyr sy'n defnyddio'r trên wedi gwella ar ôl i deithwyr gwyno.