Saith Diwrnod

cymru Image copyright Getty Images
Image caption Y gem rhwng Cymru a Lloegr sydd wedi bod ar flaen tafodau'r genedl yr wythnos hon

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf, BBC Cymru:

Mae'r Ddraig yn poeri tân! Dyna bennawd canmoliaethus erthygl Alun Wyn Bevan yn Golwg wrth edrych yn ôl ar gêm Cymru yn erbyn Lloegr nos Sadwrn diwethaf - o'r hanner cant a mwy o fuddugoliaethau yn erbyn yr hen elyn, dywed, hon oedd yr orau o bell ffordd. Ac mae gan Alun Wyn ryw hanner ymddiheuriad i Warren Gatland - ar ôl blynyddoedd o'i watwar a'i feirniadu efallai ei bod hi'n bryd ail-feddwl a dangos rhywfaint o barch iddo am ei baratoadau manwl yn ogystal â'i allu i ddilyn greddf yng ngwres y frwydr. Canmoliaeth yn wir!

Do, mi gafodd buddugoliaeth Cymru nos Sadwrn sylw eang iawn - ym mhobman. Mae blogiwr gwadd Cymru Fyw, Jo Blog, wedi cael digon. Allai ddim dianc, dywed Jo - yr un pedwar munud bob tro. A'r un yw'r canlyniad. Bob tro. I ddechrau roedd o'n bleser pur. Erbyn hyn mae'n hunllef. Sdim ots ble dwi'n troi, radio, teledu, Facebook, Twitter… mae munudau olaf gêm Cymru a Lloegr yn cael eu dangos drosodd a throsodd a throsodd a throsodd.

Ac mae ganddo bwynt - dywed mai ni yw'r cyntaf i ddifrïo Lloegr am eu hobsesiwn gyda Chwpan Pêl-droed y Byd ym 1966. Ond 'da ni'n dioddef o fersiwn gwaeth. 'Da ni'n meddwl bod 'Dolig yn mynd i ddod bob dydd jyst achos ein bod ni wedi ennill un gêm.

Bethan Gwanas yn darogan

Mae Bethan Gwanas yn yr Herald yn hawlio iddi hi ddarogan mai Cymru fyddai'n ennill y gêm, a hynny am dri munud wedi naw nos Sadwrn, pan oedd pethau'n edrych yn ddu iawn ar y tîm. Fe wyddai mai Cymru fyddai'n sgorio'r cais nesaf ac yn mynd a hi - ond na, does ganddi ddim clem beth fydd yn digwydd nesaf.

Image caption Mae Bethan Gwanas yn un o'r rhai sydd wedi ei chyffroi efo Pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd

Yr wythnos hon, mae hyd yn oed pobl sydd ddim yn rhy hoff o rygbi wedi'u dal gan ysbryd y gêm. Mae Gronyn, blogiwr Gofalaeth Fro'r Lechen Las yn greadur sy'n hoff o chwaraeon o bob math, ond mae'n cyfaddef nad yw'n ddyn rygbi.

Ond mi edrychodd ar y gêm nos Sadwrn, ac ar ôl profiad poenus am ran helaethaf y noson wrth i Loegr fynd ar y blaen, ac aros ar y blaen hyd at y munudau olaf, pan ddaeth y chwiban olaf, roedd ar ben ei ddigon, ac erbyn y gêm nesaf, dywed, beryg iawn y bydd ganddo glamp o gennin Pedr ar ei ben, fel cefnogwr rygbi gwerth ei halen.

Er mai Gog ydw i, dywed Ifan Morgan Jones ar ei flog-rygbi-a-chenedlaetholdeb, rydw i ers blynyddoedd wedi ymddiddori mewn rygbi, a hynny ar draul pêl-droed. Mae Ifan yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth arall yn yr wythnos cyn dechrau gêm ryngwladol.

Hunaniaeth genedlaethol

Pam felly? Mae'n genedlaetholwr, ac mae rygbi yn amlwg yn rhan annatod o'n hunaniaeth genedlaethol. Ond mae'n holi beth sy'n gyfrifol am hynny, ac a yw'n beth iach?

Yn ôl yr academydd Michael Billig, mae yna ddau fath o genedlaetholdeb, sef cenedlaetholdeb 'poeth' - sydd am newid y drefn - a chenedlaetholdeb 'banal' - sydd yn cynnal y drefn fel y mae.

Cenedlaetholdeb 'banal' yw rygbi, mewn sawl ffordd. Mae'n gyfle i'r Cymry chwythu ychydig o stêm, yn fynych i gyfeiriad Lloegr, a hynny heb herio safle darostyngedig y wlad mewn gwirionedd.

O diar, felly falle na ddylen ni ddathlu unrhyw fuddugoliaeth wedi'r cyfan?

Ond hyd yn oed os ydych chi'n ddyn pêl-droed ac yn casáu rygbi, hyd yn oed os nad ydych chi'n dangos diddordeb mewn chwaraeon o unrhyw fath, am y tro, dwi'n meddwl mai cytuno â Gronyn wnaf i - onid oes gan bob Cymro a Chymraes hawl i neidio ar y bandwagon pan fydd Cymru'n trechu Lloegr mewn unrhyw gamp?