Heddlu Gwent i gael camerâu fideo

Inspector Richard Blakemore wearing one of the cameras Image copyright Gwent police

Fe fydd heddlu yn y de ddwyrain yn derbyn camerâu fideo i'w gosod ar eu lifrau gwaith.

Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi bwrw 'mlaen gyda'r syniad yn dilyn cynllun peilot yng Nghasnewydd yn Awst.

Dywedodd llefarydd y bydd y camerâu yn help wrth atal troseddau ac ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Ychwanegodd y byddant hefyd yn rhoi tawelch meddwl i'r cyhoedd ac yn cynnig tryloywder o ran y modd mae'r heddlu yn gweithredu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru ymhlith yr heddluoedd eraill sydd eisoes yn defnyddio camerâu fideo.