Gêm gyfartal i Abertawe

Swansea players celebrate Andre Ayew's opening goal Image copyright AFP
Image caption Andre Ayew yn sgorio ei bedwaredd gol o'r tymor

Llwyddodd cic rydd wych Christian Eriksen i sicrhau pwynt i Tottenham yn Stadiwm y Liberty gan olygu fod Abertawe nawr wedi mynd pum gem yn olynol heb fuddugoliaeth.

Rhoddodd peniad Anre Ayew yr Elyrch ar y blaen, ond yna fe lwyddodd Eriksen i ddod ar sgôr yn gyfartal gyda chic rydd o 25 llath.

Harry Kane oed yn nesaf i sgorio, ond hynny i Abertawe. Fe wnaeth e daro cic gornel Jonjo Shelvey i'w rwyd ei hun.

Ond yna tarodd Eriksen eto i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr, gan olygu bod nhw wedi mwyn saith gem yn ddiguro.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn codi i'r unfed safle ar ddeg.