Dynes wedi marw wedi dilyn damwain ffordd

A5 looking towards the A470 near Waterloo Bridge Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y ddamwain ger pont Waterloo, Betws-y-Coed.

Mae dynes wedi marw a dyn wedi ei anafu yn ddifrifol ar ôl damwain ffordd yn Nyffryn Conwy.

Bu car Nissan Qashqai a beic modur BMW mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Betws-y-Coed am 14:15 ddydd Sul.

Fe gafodd gyrrwr a theithiwr y beic modur eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw'r teithiwr - dynes yn ei 70au - yn ddiweddarach.

Mae'r gyrrwr yn parhau i dderbyn triniaeth.

Fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod tra bod ymchwiliad i'r ddamwain ger pont Waterloo yn parhau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.

Straeon perthnasol