Irfon Williams: 'Cryfhau bob dydd'

Irfon Williams

Mae Irfon Williams, y dyn o Fangor fu yng nghanol ymgyrch yn ymwneud â chyffuriau canser, wedi gwneud ei gyfweliad radio cyntaf ers iddo gael llawdriniaeth fawr yn Ysbyty Aintree yn Lerpwl.

Dechreuodd yr ymgyrch 'Hawl i Fyw' pan gafodd Mr Williams wrthod y cyffur Cetuximab am nad oedd wedi'i awdurdodi gan Llywodraeth Cymru.

Roedd ganddo ganser yn y coluddyn a'r iau, ond dywedodd ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Mawrth ei fod yn "cryfhau bob dydd".

Symud i Loegr

Pan gafodd wybod fod ganddo ganser 18 mis yn ôl, dywedodd iddo gael triniaeth "a gofal da iawn" yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bod cyffur oedd wedi'i awgrymu iddo gan sawl arbenigwr ddim yn cael ei gyllido yng Nghymru.

"Roedd rhaid i mi symud i Loegr," meddai, "ac yn ffodus nes i ymateb yn dda i'r cyffur - cystal fel mod i wedi medru cael llawdriniaeth."

"Mae'n anghyffredin iawn i gael llawdriniaeth ar yr iau a'r coluddyn yr un pryd, ond dyna oedd yn rhoi'r cyfle gorau i mi wella ac roedd yn llawdriniaeth barodd am dros saith awr.

"Rwy'n falch iawn o ddeud mod i wedi cysgu drwy'r cyfan, ond roedd o'n gyfnod anodd iawn i Becky y wraig a'r teulu.

"Wedi'r llawdriniaeth roedd yn gyfnod anodd dros ben...ro'n i mewn uned gofal dwys am hir ac roedd y boen mor ddrwg ar adegau do'n i ddim yn gwybod os oedd hi'n ddydd neu'n nos.

"Fuodd rhaid i mi gael llawdriniaeth arall oherwydd fe 'nath y graith agor oherwydd 'infection', ac un arall wedyn oherwydd rhyw gasgliad o gwmpas yr iau.

"Fues i yno am dair wythnos ond mae'n braf iawn cael bod adra. Dwi wedi bod yn ôl yn Lerpwl - roedd y Cetuximab wedi lladd y rhan fwya' o'r canser yn y tiwmors, ond mae'r llawdriniaeth wedi cael gwared â'r tiwmors i gyd felly mae'r gobaith o wella yn llawer mwy nag oedd o."

Cadw'n bositif

Gofynnodd Dylan Jones iddo a oedd yna adegau pan oedd yn teimlo bod y cyfan yn ormod, ac y byddai'n well peidio parhau gyda'r driniaeth.

Atebodd: "Mae'n gwestiwn da iawn. Oedd roedd yna adegau pan oedd rhaid i mi feddwl yn galed iawn er mwyn ceisio aros yn bositif.

"Ond fe ges i gefnogaeth anhygoel gan ffrindiau da iawn.

"Rhaid i mi ddiolch hefyd i'r Gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl... fe ddaeth John Williams o'r Gymdeithas i 'ngweld i yn yr ysbyty. Roedd rhai o'r nyrsys yno'n siarad Cymraeg hefyd, ac roedd cael sgwrsio yn Gymraeg yn gyson yn codi 'nghalon i.

"Wrth edrych ymlaen rydan ni (ymgyrch Hawl i Fyw) mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am y ffordd ymlaen â'r canllawiau o safbwynt cyffuriau canser.

"Fues i'n siarad hefo rhai o aelodau'r bwrdd iechyd, ac roedd lot yn teimlo bod angen addasu'r canllawiau a'u bod yn gweld bod y cyffur sydd ddim ar gael yn medru achub bywydau."

Mae elusen Tîm Irfon wedi codi dros £90,000 i gleifion canser yng Ngwynedd a Môn, ac mae Irfon Williams hefyd wedi dweud ar y rhaglen ei fod yn gobeithio ysgrifennu llyfr am ei brofiadau.

Ond y peth pwysicaf, fel y dywedodd: "Dwi 'di cael amser llawer caletach nag o'n i wedi disgwyl, ond mae'n rhaid i mi ddeud 'mod i'n teimlo'n well bob dydd...wedi gwella'n arw."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dylan Jones yn holi Irfon Williams.

Straeon perthnasol