Rhybudd melyn am law trwm

rhybudd melyn Image copyright Met Office

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am dywydd drwg dros Gymru am weddill dydd Mawrth, 6 Hydref.

Cafodd y rhybudd ei gyhoeddi am 10:20 fore Mawrth, ac mae'n berthnasol i bob sir yng Nghymru o 12:30 ddydd Mawrth tan hanner nos.

Fe ddywed y Swyddfa Dywydd y bydd rhannau o Gymru yn gweld cawodydd trymion iawn - weithiau'n stormus gyda mellt a tharanau - yn symud yn araf.

Mae hynny'n debygol o arwain at lifogydd mewn mannau, ac fe allai hynny gael effaith ar deithwyr.

Fe fydd pwysedd isel yn symud yn araf, ac mae'r glaw felly'n debyg o barhau tan ddiwedd y nos.