Allyriadau: Pa mor lân yw aer Cymru?

allyriadau

Ar ôl i gwmni ceir Volkswagen gyfaddef eu bod wedi twyllo'n fwriadol wrth brofi allyriadau ceir, mae mwy o drafod ar ba mor lân ydy'r aer yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Prydain yn ymgynghori ar sut mae gwella ansawdd awyr er mwyn dilyn rheolau Ewropeaidd.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd Defra (Adran Amgylchedd a Bwyd Prydain) amcangyfrif y gallai dros 52,500 o bobl farw yn gynt na'r disgwyl oherwydd llygredd awyr.

Bellach mae'r llywodraeth yn amcangyfrif bod nwyon ocsidiau o nitrogen yn golygu bod 23,500 yn marw cyn pryd o'r nwyon hyn (nitrogen deuocsid NO2).

'Celloedd yn marw'

Mewn labordy ym Mhrifysgol Caerdydd mae ymchwil i effeithiau llygredd ar bobl, effeithiau ar anadlu ac ysgyfaint yn benodol.

Cyfarwyddwr yr adran sy'n ymchwilio i effeithiau mân ronynnau disel a phetrol ydy Dr Kelly Bérubé.

"Os ydi rhywun yn dod i gysylltiad â'r gronynnau yma yn barhaus, yna buan iawn mae'r niwed sy'n cael ei achosi yn ddi-droi'n-ôl," meddai.

"Mae'r celloedd yn y corff yn dechrau marw, ac fe allai hynny arwain at sawl math o ganser."

Image copyright bbc
Image caption Dr Kelly Bérubé ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae llygredd mewn rhannau o Gymru oherwydd diwydiannau trwm a thra bod llawer llai o lygredd awyr na'r gorffennol mae ardal fel Port Talbot yn parhau i gael ei heffeithio ar brydiau.

Un o'r ardaloedd gwaethaf o ran allyriadau petrol a disel ydy Caerdydd ac, yn ôl rheolau Ewropeaidd, mae angen dilyn rheolau glendid awyr erbyn 2020.

Mae Defra yn ymgynghori ar wella ansawdd, yn enwedig yn Llundain a nifer o ddinasoedd eraill yn Lloegr cyn 6 Tachwedd.

Bellach mae mwy o danwydd disel yn cael ei werthu na phetrol ond, yn ôl y diwydiant moduro, mae lefelau o ocsidiau nitrogen wedi lleihau 81% ers 1990.

'Ddim yn ymarferol'

Ond yr hyn sy'n cael ei gwestiynu ydy techneg cwmni Volkswagen wrth brofi allyriadau ceir, a sut mae'r asesiadau hynny yn cael eu hystumio i edrych fel petai rheolau glendid awyr yn cael eu dilyn.

Yn ôl y gohebydd moduro Tim Shallcross o Lan-y-fferi, Sir Gaerfyrddin: "Gallwch chi brynu car a'r gwneuthurwyr yn dweud 60 milltir i'r galwyn ond rydych chi'n gwybod mai dim ond 40 milltir gewch chi. Mae'r un peth yn union yn wir am allyriadau.

"Mewn theori mae'r allyriadau'n is - mewn labordy gyda phobl mewn cotiau gwyn - ond yn ymarferol, ar y ffordd fawr, dydyn nhw ddim yn cyrraedd y targedau."

Image caption Y gohebydd moduro Tim Shallcross

'Polisi anghywir'

Yn ystod y dyddiau diwethaf datblygodd y stori gyda sylwadau'r cyn weinidog gwyddoniaeth yn Llywodraeth Llafur 2009-2010.

Yn ôl yr Arglwydd Drayson, roedd yn gamgymeriad hyrwyddo ceir disel - drwy ostwng trethi'r math hynny o beiriannau a chredu bod disel yn llygru llai na cheir petrol.

"Mae gennym ni well dealltwriaeth na'r un flynyddoedd yn ôl o effeithiau allyriadau ceir disel, ac maen nhw yn llythrennol yn lladd pobl," meddai.

"Mae'n glir wrth edrych yn ôl nad dyna oedd y polisi cywir. Mae'n rhaid i ni weithredu'n fuan.

Ceir trydan

"Rhaid i'r diwydiant ceir gyflymu datblygu ceir trydan, ac fe fydd angen i ni weld mwy o fabwysiadu cerbydau 'hybrid'."

Mae peth gwaith ymchwil yn cael ei wneud, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ganfod ble mae'r llygredd gwaethaf. Mae 34 safle i fonitro ansawdd aer mewn 10 awdurdod lleol.

Dyma'r ardaloedd gwaethaf o ran saith o'r nwyon mwyaf difrifol a chyfrifoldeb swyddogion y cynghorau ydy delio â'r llygredd yma.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn pwyso ar Lywodraeth Prydain i gydymffurfio ac i sicrhau y bydd ansawdd awyr gwell erbyn 2020.