Tri phlentyn T Llew Jones

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni T Llew Jones, mae yna gyfle i ddod i adnabod yr awdur poblogaidd yn well.

Ar 'T Llew Jones' ar S4C, nos Fawrth 6 Hydref cafodd y llen ei chodi ar ei fywyd personol.

Datgelodd y rhaglen bod gan T. Llew Jones ferch nad oedd wedi cael cysylltiad â hi yn ystod ei fywyd, a doedd ei ddau fab, Emyr a Iolo, ddim yn gwybod dim amdani tan yn ddiweddar.

Cawn hanes Eira Prosser a sut yr aeth ati i gysylltu gydag Emyr Llywelyn a Iolo Jones, dau fab yr awdur, yn gynharach eleni. Bydd yna fwy o drafod ar yr elfen hon o'r stori yn 'T Llew Jones ar BBC Radio Cymru, Nos Sul 11 Hydref. Mae BBC Cymru Fyw yn rhoi chydig o flas y stori i chi:


Image copyright S4C
Image caption Eira Prosser

Llythyr

"Blwyddyn hyn feddylies i amdano fe, o'n i ishe cysylltu â nhw sbel nôl, blynydde nôl, ond o'dd yr amser ddim yn iawn. Ac o'n i'n meddwl 'leni, ma rhaid 'neud e, cyn bo ni'n mynd rhy hen!" meddai Eira, sy'n siarad gyda Beti George, cyflwynydd y rhaglen.

"Hales i lythyr i Emyr, a glywes i ddim byd am dair wythnos. O'n i'n meddwl, beth sy'n digwydd?"

Pan gysylltodd Emyr Llywelyn gyda Eira ar y ffôn, dyna pryd y datgelodd hithau ei bod yn chwaer iddo fe a Iolo.

"Wi'n chwa'r i chi"

"O'n i ddim wedi dweud yn y llythyr shwt o'n i'n perthyn iddo fe, rhag ofan bydde fe'n cael ofan... wedes i wrtho 'sai'n meddwl bo chi'n gwbod pwy ydw i.... Wi'n chwa'r i chi'. A'r peth cynta' wedodd e, 'mae'n rhaid i ni gwrdd heddi'."

"Mae rhywbeth arbennig wedi digwydd ym mywyd Iolo a fi. Mae Eira yn berson arbennig, ni wedi bod yn lwcus iawn bod hi wedi dod i gysylltiad. Ni mor falch," meddai Emyr Llywelyn.

Symud o'r gorllewin

Cafodd Eira ei geni yn nechrau'r 1940au y tu allan i briodas a bu'n rhaid i'w mam adael cartref yn Aberteifi a symud i Gaerdydd i eni Eira ac i gael gwaith.

"Roedd yn galed, gorfod iddi fynd o gatre. Mynd i Gaerdydd, i ysbyty Salvation Army, lle gafodd hi fi. Cafodd hi waith mewn tŷ mawr yn Palace Road, Llandaf.

Image copyright S4C
Image caption T. Llew Jones

"O'n i'n gwbod o'r dechre bod e'n enwog, o'dd Mam yn dweud bod e'n sgwennu llyfre, pan o'n i'n ddigon hen i ddeall.... Oedd e'n dod i'r ysgol, Ysgol Gynradd Aberteifi, i gwrdd â'r plant... o'n i'n arfer dweud 'dyna'n nhad i fan'na', odd e byth yn trial cwato fe.

"Bues i ddim yn siarad â fe bryd 'ny, ond oedd un amser pan oedd y Steddfod yn Aberteifi, oedd Mam eisiau i fi gwrdd â fe, so wedodd hi... 'dewch y'n ni'n mynd tu nôl i'r stâj'. Wedodd hi 'dyma'ch tad chi' a wedodd hi wrth T Llew.. 'dyma Eira'... 'helo Eira, wi'n falch i gwrdd â chi.' Fel na fuodd hi. Fel na wedd hi chi'n gweld."

Oes wahanol

"Y drasiedi yw, wnaeth e ddim arddel y berthynas yn ystod ei fywyd," meddai Emyr Llywelyn. "Bydde fe wedi bod yn well i ni gyd, i Eira, ac i ni ac iddo fe ac i Mam 'falle tase fe wedi arddel y berthynas yn ystod ei fywyd. Piti na 'se fe wedi cael y nerth i wynebu'r peth ac i ddwyn y peth i olau dydd.

"Oedden nhw'n perthyn i oes wahanol, pan oedd 'na stigma yn perthyn i bethe fel hyn. Gobeithio ein bod ni'n byw mewn oes well lle mae pobl yn arddel ei gilydd ta beth yw'r amgylchiade.

"Oedd fy nghefnder i, Jon Meirion yn gwybod, ac oedd Idris Reynolds a sgwennodd y llyfr am fy nhad yn gwybod. Oedd 'na rhyw bobl oedd yn gwybod ond doedd ganddo ni'n dau ddim syniad o gwbl. Ond y'n ni mor falch ein bod ni wedi cwrdd," meddai Emyr.

"Dwi mor falch o'r diwedd ein bod ni'n cael ei chydnabod hi am bwy yw hi... fel chwaer i ni'n dau. Mae hwnna'n golygu llawer i ni."

Image copyright S4C
Image caption Emyr Llywelyn, Eira Prosser a Iolo Jones

Gallwch wylio rhaglen 'T Llew Jones'.

Mae ail ddarllediad o'r rhaglen ar S4C ddydd Sadwrn 10 Hydref am 13.00.

T Llew Jones', BBC Radio Cymru, Dydd Sul 11 Hydref, 19:05.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC