Llawdriniaethau orthopedig yn 'her i'r GIG yng Nghymru'

Llawdriniaeth

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael trafferth ateb y galw am lawdriniaethau orthopedig oni bai bod newidiadau sylweddol a chyflym yn digwydd yn y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu rhedeg, yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd.

Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau gyda'r nod o wella gofal.

Yn ôl Mr Gething mae mwy o gleifion bellach yn cael eu trin, yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen, am gyflyrau yn ymwneud a'u hesgyrn, cymalau neu eu cyhyrau.

Ond mae'n cydnabod bod rhai cleifion yn aros yn rhy hir am driniaeth.

'Canlyniadau llwyddiannus'

Dywedodd Mr Gething: "Y sialens yw, os nad ydyn ni'n newid y ffordd ry'n ni'n rhedeg y gwasanaeth ar draws Cymru, yna ry'n ni'n annhebygol o allu cwrdd â'r galw fel dy'n ni eisiau yn y dyfodol.

"Rhaid i ni wneud rhywbeth am y galw yna hefyd. Ry'n ni'n trin mwy o bobl nag erioed, gyda mwy o ganlyniadau llwyddiannus nag erioed.

"Ond y sialens yw, ydyn ni'n gallu cwrdd â'r galw gyda'r ffordd ry'n ni'n gwneud ein busnes ar hyn o bryd? A'r ateb i hynny yw 'na'."

Mae'r cynllun orthopedig newydd yn datgan y bydd y system yn ei chael yn anodd ymdopi oni bai bod y gwasanaeth iechyd yn blaenoriaethu adnoddau ar yr achosion mwyaf brys ac ar driniaethau sydd wedi eu profi i elwa cleifion.

Image caption Mae'r cynllun yn ceisio "cael y gorau allan allan o adnoddau cyfyngedig", medd Mr Gething

Mesurau newydd

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys mesurau i geisio gwella iechyd pobl wrth iddyn nhw ddisgwyl am driniaeth. Er enghraifft:

  • Bydd cleifion a phoen cefn cyffredinol yn derbyn triniaeth yn y gymuned yn unig, a ddim yn cael eu hanfon i'r ysbyty oni bai bod rheswm penodol i wneud hynny;
  • Bydd mwyafrif y cleifion orthopedig yn cael eu categoreiddio yn achosion "arferol" - a hynny er mwyn ceisio sicrhau bod yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu gweld o fewn chwe wythnos;
  • Bydd cleifion sy'n ysmygu neu'n ordew yn cael cynnig cyrsiau i wella eu hiechyd yn y gobaith, mewn rhai achosion, y bydd eu hiechyd yn gwella digon fel nad oes angen llawdriniaeth.

Ond yn ôl Mr Gething, ni fydd cleifion yn cael eu cosbi am beidio cymryd rhan.

"Bydd unrhyw un sy'n ddigon iach i gael llawdriniaeth yn gallu cael y driniaeth yna os a phan sydd ei angen," meddai.

"Dyw hyn ddim am gosbi na gwrthod triniaeth i gleifion - mae am sut i gael y gorau allan o'r system, ac allan o adnoddau cyfyngedig."

Amseroedd aros

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn gyson ynglŷn â pherfformiad y Gwasanaeth Iechyd ar dargedau yn ymwneud ag amseroedd aros am lawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw - hynny yw, sydd ddim yn llawdriniaethau brys.

Mae'r cynllun newydd yn dangos bod nifer y cleifion sydd wedi gorfod disgwyl dros 26 wythnos am driniaeth orthopedig wedi cynyddu o ychydig yn llai na 5,000 yn haf 2011 i dros 11,000 erbyn gaeaf 2014.

Yn ôl targedau Llywodraeth Cymru dylai neb aros dros 36 wythnos am driniaeth, ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 27,000 o bobl wedi aros yn hirach na'r cyfnod hwnnw.

Ond mae'r cynllun hefyd yn dangos bod nifer y triniaethau orthopedig sydd wedi cymryd lle mewn ysbytai wedi lleihau yn raddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn nodi bod hynny wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros.

Gohirio llawdriniaethau

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y cynnydd yn y galw am ofal brys sy'n rhannol gyfrifol am y gostyngiad hwnnw.

Ychwanegwyd bod sawl ysbyty wedi gorfod gohirio llawdriniaethau orthopedig yn y blynyddoedd diwethaf er mwyn ymdopi â'r cynnydd yn nifer yr achosion brys.

Felly mae'r cynllun orthopedig yn sôn bod angen nid yn unig gwella sut mae gwasanaethau yn cael eu rhedeg ond hefyd bod angen cynyddu capasiti.

Er hynny, does dim adnoddau ychwanegol newydd ynghlwm â'r cynllun hwn, yn ôl Llywodraeth Cymru.