Cynllun iaith: 'Dim gwahaniaeth clir'

Carwyn Jones
Image caption Dywedodd Carwyn Jones y byddai'r adroddiad yn helpu cryfhau dealltwriaeth o ddefnydd iaith

Does dim gwahaniaeth clir rhwng cymunedau gafodd eu targedu gan gynllun i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'r rhai na chafodd eu targedu, yn ôl adroddiad.

Mae Prifysgol Bangor wedi dweud bod tystiolaeth yn dangos bod yr iaith yn dal i fod mewn "sefyllfa fregus" mewn rhai cymunedau y mae cynllun Llywodraeth Cymru yn eu targedu.

Cafodd strategaeth Iaith fyw: Iaith byw ei chreu yn 2012 gyda'r bwriad o gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg.

Bwriad yr ymchwil oedd ceisio ateb sawl cwestiwn, gan gynnwys beth oedd y nodweddion yn diffinio cymunedau o ran eu capasiti i fodoli fel unedau Cymraeg cynaliadwy, beth oedd y nodweddion yn diffinio cymunedau o ran eu capasiti i integreiddio pobl ddi-Gymraeg a dysgwyr Cymraeg a beth oedd y ffactorau yn ysgogi newid ieithyddol o fewn y cymunedau.

Cafodd chwe chymuned eu dewis, Aberteifi, Bangor, Llanrwst a Rhydaman am eu bod yn rhan o gynllunio'r llywodraeth ac Aberystwyth a Phorthmadog lle nad oedd cymaint o gynllunio.

Cryfhau'r pontio

Mae adroddiad y brifysgol wedi galw ar y llywodraeth i gryfhau'r pontio rhwng y byd addysg a'r gymuned, creu gwell ffordd o fesur effeithiolrwydd eu strategaeth, a cheisio creu darlun mwy manwl a chynhwysfawr o batrymau iaith wrth ystyried defnydd mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai'r adroddiad yn "cryfhau ein dealltwriaeth o sut i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gymuned.

"Mae'n cynnig darlun defnyddiol o sut y mae pobl yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau dyddiol a bydd yn ddefnyddiol wrth asesu pa mor llwyddiannus yw ein strategaeth."