Pryder am ddyfodol melin wynt ym Môn

llynon

Ddiwedd yr wythnos (16 Hydref), mi fydd y cyfle yn dod i ben i unrhyw fudiad neu grwp fynegi diddordeb i fod yn gyfrifol am dri o safleoedd treftadaeth Môn.

Yn ôl Cyngor Môn, dydi'r arian ddim ganddyn nhw i fod yn gyfrifol am Oriel Môn Llangefni, Carchar Biwmares a Melin Llynnon Llanddeusant, yn y dyfodol.

Ond mae Cyngor Cymuned Trealaw, sydd yn gyfrifol am bentref Llanddeusant, wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru nad ydi'r cyngor wedi cysylltu â nhw o gwbl, ac mae arweinydd Cyngor Môn wedi dweud efallai y bydd yn rhaid ystyried "y cam eithafol" o werthu'r safleoedd yn breifat.

Ifan Rowlands ydi is-gadeirydd Cyngor Cymuned Trealaw.

Fe ddywedodd fod Melin Llynnon "yn symbol o'n treftadaeth ni, ein twristiaeth ni a'n diwylliant ni. Mi fyddai wedi bod yn braf fel Cyngor Cymuned, cael rhyw fath o gysylltiad gan Cyngor Môn, 'da ni'n gwybod am eu bwriad nhw o ddarllen y papur newydd."

"'Da ni'n siomedig mwy na dim byd, achos wrth gwrs mi fydda ni'n hoffi gweld yr eicon ydi'r felin yma yn cael ei chadw mewn rhyw fath o sefydliad sy'n mynd i sicrhau ei bod hi'n cael ei chadw'n agored, a'n rhan o dwristiaeth Môn".

Image caption Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Trealaw, Ifan Rowlands, ger Melin Llynnon

'Agored i bawb'

Ond yn ôl Arweinydd Cyngor Môn, Ieuan Williams: "Dyda ni ddim wedi mynd allan i siarad efo un corff penodol o gwbl - mae hwn yn agored i bawb ddangos diddordeb, tyda ni ddim wedi gwahaniaethu - ac mae yna groeso iddyn nhw gysylltu efo fi ac mi wnai siarad â nhw ynglŷn â'r mater".

Mae Oriel Mon yn cynnwys casgliadau o waith Syr Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe ac yn ôl y Cyngor, mi fyddai'r darluniau rheini yn cael eu gwarchod.

Felly ydi gwerthu rhan o'r casgliad er mwyn diogelu'r safleodd yn opsiwn?

"Mae'n rhaid i ni gofio am yr amodau y mae'r rhai hynny wedi eu gadael i'r Cyngor," yn ôl Ieuan Williams, "wedyn mae yna amodau ynghlwm efo'r casgliad."

Fel pob cyngor arall, mae'n rhaid i Gyngor Môn wneud arbedion gwerth miliynnau o bunnau dros y blynyddoedd nesa'.

Yn ôl yr Arweinydd, byddai gwerthu'r safleoedd "yn well na'u cau nhw, wedyn efallai ar ddiwedd y dydd y byddai'n rhaid i ni ystyried cam mor eithafol â hynny."