Dathlu cyfraniad T Llew Jones

T. Llew Jones Image copyright S4C

Fe fydd ysgolion ledled Cymru yn nodi canmlwyddiant geni un o awduron enwocaf Cymru ddydd Gwener.

Ar 'Ddiwrnod T Llew Jones' bydd gwahanol ddigwyddiadau mewn ysgolion yn dathlu bywyd yr awdur plant.

Mae'r Cyngor Llyfrau wedi trefnu sawl te parti mewn gwahanol ysgolion ac wedi comisiynu llun arbennig o'r awdur.

Bu farw T Llew Jones yn 2009. Roedd wedi cyhoeddi dros 50 o lyfrau.

Fel rhan o'r dathlu eleni mae Gwasg Gomer wedi ailgyhoeddi nofelau T Llew gan ddiweddaru'r iaith.

Dywedodd llefarydd fod hyn yn gydnabyddiaeth fod y Gymraeg wedi newid yn ystod y degawdau ers eu hysgrifennu, ac yn cydnabod yr heriau cynyddol sy'n wynebu plant o ran eu sgiliau llythrennedd.

Image caption Plant Ysgol T Llew Jones, Bryn Hoffnant, Ceredigion.