Sarajevo
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pêl-droed yn trwsio rhwyg y rhyfel yn Bosnia-Herzegovina

9 Hydref 2015 Diweddarwyd 21:06 BST

Pwynt yn unig sydd rhwng tîm pêl-droed Cymru a rowndiau terfynol Euro 2016, ac mae cyfle cyntaf dynion Chris Coleman yn dod yn y gêm yn erbyn Bosnia-Herzegovina ddydd Sadwrn.

Gohebydd BBC Cymru Iwan Griffiths sydd wedi bod yn Sarajevo i ddeall mwy am bwysigrwydd pêl-droed mewn gwlad gafodd ei rhwygo yn ddau gan ryfel cartref.