Cyhuddo dyn mewn cysylltiad â damwain bws yn Wrecsam

Coach crash in Wreham Image copyright Jack Scott

Mae dyn wedi'i gyhuddo mewn cysylltiad â damwain pan oedd bws bron â syrthio o bont yn Wrecsam.

Cafodd y dyn 22 oed ei gyhuddo o yrru'n ddiofal, peidio â stopio a pheidio â rhoi gwybod am anafiadau wedi'r ddamwain ar 21 Medi.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o yrru heb yswiriant na thrwydded.

Bydd yn Llys Ynadon Wrecsam ar 23 Hydref.