Canrif ers geni T Llew Jones

tlj

Union ganrif yn ôl i'r diwrnod cafodd T Llew Jones, un o awduron enwocaf llyfrau Cymraeg i blant ei eni.

Fe'i anwyd ym Mhentre-cwrt ger Llandysul yn y flwyddyn 1915 a mynychodd yr ysgol Ramadeg leol.

Bu'n gweithio fel athro am 35 mlynedd - yn Ysgol Gynradd Tregroes, ac yna yn Ysgol Coedybryn ger Llandysul lle y bu'n Brifathro am gyfnod.

Dechreuodd ysgrifennu straeon pan oedd yn blentyn, ond yn ystod y 1950au dechreuodd gyhoeddi rhyddiaith a barddoniaeth.

Enw ei nofel gyntaf oedd Trysor Plas y Wernen. Fel sawl un o'i lyfrau roedd wedi ei osod ym mro ei febyd, Ceredigion. Fe ysgrifennodd dros hanner cant o lyfrau yn y pendraw, gan gynnwys 35 o lyfrau i blant.

Storïwr medrus

Yn storïwr medrus, mae ei lyfrau yn tynnu ar chwedlau, cymeriadau a llefydd lleol. Mae ogofau y smyglwyr ym mae Ceredigion, Twm Sion Cati, Sion Cwilt a Barti Ddu oll yn ymddangos yn ei waith.

Dydy hi ddim yn syndod fod ei dalentau wedi ennill cryn adnabyddiaeth iddo. Yn 1958 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ac efe oedd y bardd buddugol y flwyddyn olynol hefyd.

Yn 1991 fe dderbyniodd wobr Mary Vaughan Jones, gwobr sydd yn cydnabod cyfraniadau sylweddol i lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae hefyd wedi ennill gwobr llenyddol Tir na n'Og ac yn 1977, rhoddwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Cymru.

Mae rhai o'i lyfrau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg ac eraill, megis Tân ar y Comin a Dirgelwch yr Ogof wedi eu addasu ar gyfer y teledu.

Gwyddbwyll

Mae T Llew Jones hefyd wedi sefydlu enw iddo'i hun fel chwaraewr gwyddbwyll gwych. Yn wir mae ef a'i fab Iolo wedi ysgrifennu yr hyn a gredir i fod yr unig lyfr Cymraeg sydd yn esbonio cymhlethdodau'r gêm hwn.

Cyfrannydd cyson i rhaglennu teledu a radio Cymraeg, roedd yn byw ym Mhontgarreg ger Llangrannog yng Ngheredigion ac ym mis Mawrth 2005 fe enillodd y gadair yn Eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion.

Yn 93 oed, bu farw ym mis Ionawr 2009.

Mae tymor arbennig o raglenni ar BBC Radio Cymru i gofnodi canmlwyddiant geni'r nofelydd a'r bardd ac i ddathlu ei waith a'i ddylanwad ar lenyddiaeth Cymru, ac mae modd gwrando ar y rhaglenni drwy glicio yma.

Dadorchuddio placiau T Llew

Wrth nodi 100 mlynedd ers ei eni, fe gafodd placiau eu dadorchuddio ddydd Sadwrn, mewn lleoliadau a oedd yn arwyddocaol i fywyd T Llew Jones.

Fe ddaeth nifer o bobl ynghyd ym Mhentre' Cwrt ac yng Nghwm Alltcafan i weld y dadorchuddio.

Image caption Emyr Llew, mab T Llew Jones yn dadorchuddio plac ym Mhentre Cwrt
Image caption Un o blaciau coffa T Llew Jones
Image caption Dadorchuddio'r plac yng Nghwm Alltcafan