Ffermwyr yn bygwth mynd â Llywodraeth Cymru i'r llys

Fferm

Bydd grŵp o ffermwyr o Gymru yn mynd â Llywodraeth Cymru i'r llys oherwydd eu bod yn anhapus gyda'r ffordd mae grantiau Ewropeaidd yn cael eu talu, oni bai bod y llywodraeth yn cytuno i siarad gyda nhw.

Mae'r grŵp - sy'n galw eu hunain yn Farmers for Regional Payments - eisiau i Lywodraeth Cymru ailystyried y drefn o roi taliad unradd am eu tir, sy'n golygu bod rhai ffermwyr mwy cynhyrchiol ar eu colled.

Mae'r grŵp yn dweud y gall ffermwyr golli hyd at 50% o'u taliadau dros y bum mlynedd nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod wedi derbyn gohebiaeth gan gyfreithwyr a'u bod yn ystyried hynny ar hyn o bryd, a'u bod yn "gwneud pob ymdrech i ddechrau gwneud taliadau" ym mis Rhagfyr.

System tâl unradd

Yn ôl y cyfreithiwr sy'n cynrychioli FFRP, Adam Finch o Harrison Clark Rickerbys: "Ar gyfartaledd, mae'n cleientiaid ni yn mynd i golli 40%-50% (£40,000-£50,000) o'u taliadau yn flynyddol am y pum mlynedd nesaf.

"Rydym ni eisiau i'r penderfyniad gael ei wyrdroi, ac i broses fwy teg gael ei weithredu. Yn ein barn ni, roedd yr ymgynghoriad yn ddiffygiol. Cafodd y penderfyniad yma ei weithredu mewn amser byr, ac rydym ni'n credu bod hyn yn annheg."

Ym mis Gorffennaf, penderfynodd Llywodraeth Cymru newid y ffordd maen nhw'n talu grantiau amaethyddol i system tâl unradd, yn hytrach na system ranbarthol.

Dyma'r penderfyniad oedd yn cael ei ffafrio gan undebau amaethyddol ar y pryd, gan nad oedd yn bosib gweithredu system ranbarthol oedd yn cael ei hystyried yn ddigon da ar y pryd.

Image caption Adam Finch yw'r cyfreithiwr sy'n cynrychioli grŵp Farmers for Regional Payments

Gall ffermwyr eraill ar draws Cymru gael eu heffeithio os oes oedi oherwydd her gyfreithiol.

Mae ffermwyr yn disgwyl eu grantiau ym mis Rhagfyr, ac yn dilyn blwyddyn anodd i'r diwydiant, mae pryder y gall hyn arwain at nifer o fusnesau yn mynd i'r wal.

"Mae'r diwydiant mewn sefyllfa lle mae llif arian yn broblem. Mae angen yr arian yna," meddai Nick Fenwick, Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru.

Mae rhai ffermwyr yn poeni gall y penderfyniad yma gan Lywodraeth Cymru newid y diwydiant yn llwyr.

'Dechrau'r diwedd'

"Dyma ddechrau'r diwedd i ffermio yng Nghymru," meddai Idris Roberts, ffermwr o Dreuddyn, ger Yr Wyddgrug - sydd wedi ymuno â FFRP.

Gallai oedi gostio'n ddrud i Lywodraeth Cymru hefyd. Mae'n rhaid i'r taliadau gael eu dosbarthu i ffermwyr cyn mis Mehefin neu gallan nhw gael dirwy sylweddol gan Gomisiwn Ewrop.

Ychwanegodd Mr Roberts: "Os ydy'r taliadau ddim yn mynd allan erbyn mis Mehefin, ar ben y problemau fydd hynny'n achosi i'r diwydiant yn gyffredinol, mae 'na fygythiad wedyn y bydd Ewrop yn troi rownd a bydd 'na andros o ffein i Gymru, fel digwyddodd i Loegr yn 2005."

Mae Llywodraeth Lloegr wedi cael dirwyon o £642m ers 2005 am fethu talu'r grantiau mewn pryd.

Image caption "Dyma ddechrau'r diwedd i ffermio yng Nghymru," yn ôl Idris Roberts

Ond nid herio yn y llysoedd yw'r ffordd orau gan FFRP.

"Dydyn ni ddim yma i annog ein cleientiaid i fynd i lawr y llwybr cyfreithiol. Mae'n ddrud, ac mae'n cymryd amser," meddai Mr Finch.

"Y ffordd orau yw cael Llywodraeth Cymru o amgylch y bwrdd a siarad ynglŷn â sut y gallwn ni gael system decach, sy'n cydnabod y gwahanol anghenion o fewn y gymuned Gymreig."

'Llanast'

Mae rhai yn teimlo bod y bai ar Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Fenwick: "'Da ni'n siomedig iawn ein bod ni yn y sefyllfa yma.

"Oedden ni (UAC) yn rhybuddio yn ôl yn 2009 bod angen gwneud y gwaith yma, a bod angen dechrau'r broses o ail-fapio, a chael rhyw fath o system lle mae taliadau yn wahanol ar fathau gwahanol o dir.

"Cafodd y gwaith yma ddim ei gychwyn tan lawer rhy hwyr, felly er bod gwaith da wedi mynd ymlaen gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, 'da ni yn y sefyllfa yma oherwydd camgymeriadau'r gorffennol.

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Ar 15 Medi fe gawsom lythyr Protocol Cyn-Gweithredu am gais yn ymwneud â'r System Daliadau Sylfaenol gan gyfreithwyr yn cynrychioli grŵp o ffermwyr. Fe wnaethom ymateb ar 28 Medi.

"Rydym wedi derbyn gohebiaeth bellach gan y cyfreithwyr ar 9 Hydref ac rydym yn ystyried hynny ar hyn o bryd.

"Yn y cyfamser mae Taliadau Amaethyddol Cymru yn gwneud pob ymdrech i ddechrau gwneud taliadau CAP i ffermwyr ar draws Cymru ym mis Rhagfyr, ac mae'r gwaith yna yn mynd rhagddo'n dda."