Euro 2016: Hwb tocynnau i gefnogwyr triw

Wales fans in Cardiff Image copyright PA

Cefnogwyr sydd wedi bod i'r nifer fwyaf o gemau cartref ac oddi cartref sydd â'r cyfle gorau o gael tocynnau ar gyfer Euro 2016 yn Ffrainc, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd brif weithredwr CBDC Jonathan Ford mai Uefa sy'n delio â threfniadau'r tocynnau ar gyfer y bencampwriaeth, ond y byddai'n derbyn manylion aelodaeth y gymdeithas.

Fe wnaeth Cymru sicrhau eu lle yn un o'r prif bencampwriaethau pêl-droed ers 1958 ddydd Sadwrn, er iddyn nhw golli o 2-0 yn Bosnia-Herzegovina.

Bydd Cymru yn cael gwybod ble, ac yn erbyn pwy y byddan nhw'n chwarae ym mis Rhagfyr.

"Uefa sy'n delio gyda threfniadau'r tocynnau a dyna pam dy'n ni'n wedi bod yn awyddus i sicrhau bod pawb yn defnyddio eu rhaglen aelodaeth, sy'n defnyddio system bwyntiau," meddai Mr Ford wrth BBC Cymru.

"Dy'ch chi'n ennill pwyntiau am y gemau rydych chi'n mynd iddyn nhw - gartref ac oddi cartref.

"Bydd manylion tocynnau yn cael eu rhyddhau yn y misoedd nesaf, a bydd manylion aelodaeth y gymdeithas yn cael eu craffu ac mae'r rheiny sydd â'r nifer fwyaf o bwyntiau yn fwy tebygol o gael tocynnau."