Gwrthdrawiad Llanellen: Cyhoeddi enw dyn fu farw

Car heddlu

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym mhentref Llanelen, Sir Fynwy, fore Llun.

Bu farw Gavin Horne, 37 o ardal Caerffili, yn y ddamwain ger Pont Llanelen ar yr A4042 am 11:50.

Mae'n debyg bod y car, Seat Ibiza, wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda'r dyn a bu farw'n ddiweddarach, yn ôl yr heddlu.

Mae ffordd ar gau ger cylchfan Hardwick a'r bont wrth i'r ymchwiliad barhau.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai ffonio Heddlu Gwent ar 01633 642404.