Merch 16 oed wedi ei tharo gan gar yng Nghaerdydd

The junction of Clare Road and Tudor Street, Cardiff Image copyright Mick Lobb/Geograph
Image caption Fe gafodd y ferch ei tharo ar gyffordd Ffordd Clare a Stryd Tudor yn ardal Grangetown

Mae merch 16 oed wedi dioddef anafiadau i'w phenglog ar ôl damwain ffordd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu De Cymru na wnaeth gyrrwr car arian stopio wedi'r ddamwain.

Fe gafodd y ferch ei tharo ar gyffordd Ffordd Clare a Stryd Tudor yn ardal Grangetown am 19:00, a chafodd ei chymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.