Selby yn fuddugol

Lee Selby lands with a right hook against Fernando Montiel Image copyright Getty Images
Image caption Lee Selby - er iddo ennill roedd yn siomedig na wnaeth o fwy o argraff.

Mae'r Cymro Lee Selby yn parhau'n bencampwr pwysau plu y byd yr IBF.

Fe lwyddodd i amddiffyn ei goron drwy drechu Fernando Montiel o Fecsico mewn gornest yn Arizona nos Fercher.

Ond ar ôl yr ornest dywedodd y bocsiwr o'r Bari yn siomedig na wnaeth e well argraff wrth iddo geisio hybu ei enw yn America.

Bu'n rhaid i'r Cymro 28 oed weithio'n galed yn ei amddiffyniad cyntaf o'r teitl yn erbyn y gŵr 36 oed.

Hwn oedd y tro cyntaf i Selby ymladd yn yr Unol Daleithiau, a phenderfynodd y barnwyr iddo ennill 119-109, 118-110 a 116-112.

Image copyright Getty Images
Image caption Hwn oedd y tro cyntaf i Selby ymladd yn America