O Frasil i Batagonia

Image caption Roedd llun o Thomas Benbow-Phillips ymysg y casgliad

Yn gynharach eleni, bu llawer o son am y dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers i'r Wladfa gael ei sefydlu ym Mhatagonia yn Ariannin yn 1865.

Ond wyddoch chi fod 'na ymgais wedi bod 15 mlynedd cyn hynny i sefydlu gwladfa ym Mrasil, gan ŵr o Dregaron?

Nawr, mae llythyrau a dogfennau o'i eiddo wedi dod i'r golwg ym Mhatagonia, sy'n olrhain hanes yr ymgais gynnar, ac fe fyddan nhw ar gael i bawb weld yn y dyfodol agos. Bu gohebydd BBC Cymru, Sara Gibson yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i glywed mwy.

Thomas Benbow Phillips. Dyna enw anghyfarwydd i nifer, mae'n siŵr. Gŵr a gafodd ei eni yn Nhregaron, a'i fagu ym Manceinion oedd e, ond a benderfynodd ym 1850, ac yntau yn ei ugeiniau cynnar, i fynd â 100 o Gymry draw i Frasil i greu gwladfa newydd yno.

Daeth Berian Elias o'r Llyfrgell Genedlaethol ar draws hanes Thomas Benbow Phillips pan oedd e a'i gyd-weithiwr Dr Dafydd Tudur ym Mhatagonia fis diwethaf yn digido hen lythyrau, lluniau a dogfennau sydd gan bobl y Wladfa o'u teuluoedd o dras Gymreig.

Daeth gwraig i or-ŵyr Benbow Phillips â phentyrrau o ddogfennau o'i eiddo i gael eu cofnodi - dogfennau sydd heb gael eu gweld yng Nghymru o'r blaen.

Image caption Manylion y fordaith i Frasil

Mae 'na lun o Thomas Benbow Phillips yn y casgliad, rhestr o enwau'r bobl gyntaf i fynd ar long yr Irene o Lerpwl i Rio Grande Do Sul ym Mrasil ym 1850, llythyron a dyddiadur.

Fe fethodd menter Thomas Benbow Phillips ym Mrasil, ac erbyn 1872 roedd e wedi ymuno â Michael D Jones yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.

Yn fuan wedyn fe deithiodd gyda'r criw cyntaf i'r Andes i geisio sefydlu trefedigaeth yno.

Bydd y dogfennau i gyd a gafodd eu darganfod ar ymweliad y Llyfrgell Genedlaethol a Phatagonia yn ymddangos yn fuan ar wefan Casgliad y Werin, ond gan fod offer digido wedi cael eu gadael i bobl sydd ym Mhatagonia, y gobaith ydy y bydd 'na berlau eraill yn dod i'r fei yn y dyfodol hefyd.