Parti dathlu i dîm Cymru

Wales players celebrate Image copyright AFP
Image caption Fe wnaeth Cymru ennill 6 o'u deg gêm wrth gyrraedd Ffrainc.

Roedd Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn Euro 2016 yn Ffrainc fis Mehefin nesa' ond roedd Stadiwm Dinas Caerdydd dan ei sang er mwyn dathlu hynny.

Cafodd y dorf ddim eu siomi.

O'r eiliad y daeth Super Furry Animals i'r llwyfan am 19:00 roedd awyrgylch parti yn y stadiwm, ac ar ddiwedd y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Andorra, doedd dim golwg eu bod nhw'n bwriadu gadael.

Yn gynnar yn y gêm fe wnaeth y dorf dawelu pan gafodd un o chwaraewyr Andorra - Victor Moreira - anaf cas wedi iddo gael clec i'w ben. Bu'n rhaid atal y chwarae am wyth munud cyn i Moreira fedru gadael.

Fe daflodd hynny rhywfaint o gwmwl dros y chwarae am gyfnod, ond yn y munudau cyn yr egwyl roedd Cymru'n rheoli'n llwyr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Alun Thomas yn holi ymateb cefnogwyr ar ôl yr ymgyrch lwyddiannus.
Image copyright Getty Images

Erbyn yr ail hanner roedd hi'n braf gweld Moreira yn eistedd ar fainc Andorra yn amlwg yn holliach, ond erbyn hynny roedd Aaron Ramsey wedi rhoi Cymru ar y blaen.

Roedd hi'n un o'r gemau rhyngwladol mwyaf unochrog i gael ei gweld yng Nghymru erioed, ond er hynny roedd rhaid aros tan ddau funud cyn diwedd y gêm i gael yr ail gôl.

Roedd hi'n addas efallai mai prif sgoriwr Cymru yn y gemau rhagbrofol a'i cafodd hi - Gareth Bale.

Pan ddaeth y dyfarnwr â'r gêm i ben fe ddechreuodd y dathlu go iawn.

Gan bod Gwlad Belg wedi curo Israel yn eu gêm olaf nhw, ail yn y grŵp oedd Cymru yn y diwedd, ond fydd neb yn cofio hynny fis Mehefin nesaf.

Mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau ar gyfer Ffrainc, ond y dyddiad pwysig nesaf i Chris Coleman yw 12 Rhagfyr - dyna pryd y daw'r enwau i'r het i benderfynu pwy fydd yn yr un grŵp â Chymru yn y rowndiau terfynol.

Gan fod y cefnogwyr wedi aros ers 1958 i weld Cymru mewn pencampwriaeth o'r fath, go brin y bydd ots ganddyn nhw pwy fyddan nhw'n wynebu. Maen nhw eisoes wedi curo'r ail dîm gorau yn y byd wedi'r cwbwl.

Image copyright Reuters
Image copyright Reuters