Dau'n cyfaddef dynladdiad Wayne Letherby

Wayne Letherby Image copyright Heddlu'r De
Image caption Bu farw Wayne Letherby, 42 oed, wedi ymosodiad fis Ebrill

Mae dau ddyn wedi cyfaddef dynladdiad Wayne Letherby, 42 oed, y tu allan i dafarn yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd Dean Doggett o Donypandy a Jamie Leyshon o Benygraig, ill dau'n 26 oed, yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Mr Letherby y tu allan i dafarn De Winton yn Nhonypandy.

Ond yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, derbyniodd yr erlyniad eu ple o ddynladdiad.

Mae disgwyl i'r ddau gael eu dedfrydu yr wythnos nesaf.

Dywedodd yr erlynydd Paul Lewis QC fod Mr Letherby wedi diodde ymosodiad ffyrnig ym mis Ebrill.

"Cyn dechrau'r achos, fe nodon ni ar bapur y byddai'r Goron yn derbyn ple o ddynladdiad," meddai.

"Nid oedd yr erlyniad erioed wedi dadlau fod unrhyw ddiffynydd wedi bwriadu lladd Wayne Letherby."

Dywedodd fod yr erlyniad wedi edrych ar yr achos yn realistig, ac i'r ple gael ei dderbyn ar ôl ymgynghori â theulu Mr Letherby.

Cyfaddefodd Leyshon hefyd i gyhuddiad o anhrefn treisgar, fel ag y gwnaeth trydydd person, Kylie Thomas, 25 oed o Benygraig.

Yn dilyn yr achos, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Rydym wedi gweithio'n agos gyda theulu Wayne i'w cefnogi drwy'r amser anodd hwn.

"Er na all dim wneud yn iawn am eu colled, rydym yn gobeithio bod ple'r ddau yn gymorth iddyn nhw allu symud ymlaen."