Datblygwyr Lagŵn Abertawe yn poeni am ariannu

Lagŵn posib Abertawe
Image caption Dyluniad artist o'r lagŵn llanw ym Mae Abertawe

Mae datblygwyr tu ôl prosiect lagŵn llanw Bae Abertawe yn ofni y gallai rhesymau ariannol rwystro'r cynllun rhag mynd yn ei flaen.

Yn ôl cwmni Tidal Lagoon Power, mae'n rhaid iddyn nhw "fod yn hyderus" y bydd Llywodraeth Prydain yn talu'r cymhorthdal am yr ynni fydd yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y fenter.

Doedd Ioan Jenkins, cyfarwyddwr datblygu'r cwmni, ddim yn fodlon datgelu'r ffigwr ond mae'r cwmni yn gofyn am gymhorthdal sy'n uwch nag un ar gyfer tyrbinau gwynt, ynni haul ac ynni niwclear.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU ei bod yn "rhy gynnar i gytuno ar bris y cytundeb gan eu bod yn dal i wirio'r cynllun".

'Her'

"Yr her i bawb yw mai dyma'r un cynta o'i fath yn y byd," meddai Mr Jenkins.

"Rydym wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers pedair blynedd ac yn gwybod bod 86% o bobol yma o'i blaid. Rhaid i ni fod yn hyderus ..."

Dywedodd bod y prosiect yn "nwylo'r gwleidyddion".

"Rydym ni'n credu ei fod yn mynd i ddigwydd. Mae'r byd i gyd yn gwylio hyn ..." Ond roedd yn bosib, meddai, na fyddai'r prosiect yn mynd yn ei flaen.

Mae'r cwmni angen trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae Mr Jenkins yn disgwyl i hynny gael ei gymeradwyo "o fewn wythnosau".

155,000 o gartrefi

Fe fyddai'r lagŵn llanw ar ochr Ddwyreiniol Bae Abertawe rhwng y dociau a champws newydd Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian.

Y bwriad ydi i'r tyrbinau gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 155,000 o gartrefi neu 90% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio gan gartrefi ardal Bae Abertawe.

Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r lagŵn ddechrau yn 2017 wrth i'r trafodaethau am faint y cymhorthdal barhau.