Dŵr oer sy'n cysgu yn Nhryweryn...

tryweryn heddiw Image copyright Tony Edwards
Image caption Y gronfa ddŵr yn Llyn Celyn heddiw

Dŵr oer sy'n cysgu yn Nhryweryn medd y gân, ond teifl argae Llyn Celyn ei chysgod dros wleidyddiaeth Cymru hyd heddiw.

Mae 'na bentrefi llawer mwy sylweddol yn gorwedd o dan ddŵr yng Nghymru ond go brin fod bron unrhyw un y tu hwnt i'r cymdogaethau lleol yn ymwybodol o fodolaeth hen bentref Llanwddyn ym Maldwyn neu Ynysyfelin i'r gogledd o Ferthyr.

Mae boddi Capel Celyn ar y llaw arall o hyd yn destun dadleuon seneddol, ymddiheuriadau a llawer iawn gormod o gyflwyniadau llafar a chaneuon actol.

Cyfuniad o'r pryd a'r lle sy'n gyfrifol am le Tryweryn yn ein mytholeg genedlaethol. Roedd y 1960au cynnar yn gyfnod pan oedd datganoli yn dechrau ymddangos ar yr agenda gwleidyddol a'r peryg i ddyfodol y Gymraeg yn dod yn fwyfwy amlwg.

Image caption Gorymdeithio yn Lerpwl ym mis Tachwedd 1956 mewn ymgais i atal Cyngor y Ddinas rhag boddi'r pentref

Symbolau pwerus

Roedd colli Capel Celyn, cymuned uniaith Gymraeg i bob pwrpas, ac anallu Aelodau Seneddol Cymru i rwystro hynny rhag digwydd yn symbolau pwerus yn y ddwy drafodaeth.

Er gwaethaf gwrthwynebiad unfarn bron gan wleidyddion Cymru, protestiadau lu a hyd yn oed ymdrech i rwystro'r gwaith trwy fomio'r safle fe wireddwyd cynlluniau Cyngor Lerpwl gan greu'r llyn a welir yno heddiw.

Roedd boddi Cwm Tryweryn yn foment drawsnewidiol i Blaid Cymru er nad oedd hynny'n amlwg ar y pryd. Siomedig oedd canlyniadau'r blaid yn etholiad cyffredinol 1964 - hyd yn oed ym Meirionnydd ei hun ac yn 1966, Llafur, nid Plaid Cymru wnaeth ysgubo trwy'r Gymru wledig.

Ond roedd brwydr Tryweryn wedi denu carfan o aelodau ifanc brwdfrydig i rengoedd Plaid Cymru ac roedd penderfyniad y blaid i ddefnyddio dulliau cyfansoddiadol yn unig yn ystod yr ymgyrch wedi ennyn parch newydd tuag ati mewn cymunedau traddodiadol Cymraeg oedd wedi bod yn ddrwgdybus ynghylch cenedlaetholdeb.

Image caption Arwydd uniaith Saesneg yn atgoffa trigolion Capel Celyn am eu tranc

Isetholiad Caerfyrddin

Heb os roedd y ddwy ffactor hynny'n allweddol yn isetholiad Caerfyrddin a gynhaliwyd yng Ngorffennaf 1966 - yr etholiad wnaeth droi Plaid Cymru'n rhan o brif ffrwd gwleidyddiaeth.

Nid hwn yw'r lle i geisio ysgrifennu hanes amgen ond teg yw dadlau na fyddai Caerfyrddin wedi digwydd heb Dryweryn ac na fyddai datganoli wedi digwydd oni bai am Gaerfyrddin.

Mae'n ddigon posib mai ar lannau Bae Caerdydd ac nid ar lan Llyn Celyn y mae gwir gofeb Tryweryn.

Image caption Gwasanaeth datgorffori capel y pentref - y digwyddiad olaf i ddigwydd yno cyn y boddi