Rhan o hanes Cymru ar goll?

Amgueddfa'r Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed ar 17 Hydref.

Richard James yw Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Morol yng Nghymru. Mewn erthygl i Cymru Fyw mae o'n codi cwestiynau am lwyddiant yr amgueddfa o safbwynt dysgu am hanes Cymru:


'Creu argraff'

Mae'n adeilad crand o wydr a chrôm gyda neuadd fawr yn croesawu'r ymwelwyr sy'n cyrraedd yno. Mae'n ganolbwynt i hanes diwydiannol a morwrol Cymru, lle mae ymwelwyr, grwpiau ysgol a thwristiaid yn gallu dod i ddysgu am hanes Cymru.

Mae'r adeilad yn ei hun yn creu argraff, yn ganolfan i ddysgu, lle mae rhai o haneswyr gorau Cymru wedi ymgartrefu, man o arbenigedd academaidd - lle y gallen ni fod yn falch ohono. Neu ydi o?

Mae'n debyg i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gael ei hadeiladu fel adnodd i hanes Cymru, er mwyn gwarchod yr hanes, â hynny ag angerdd.

Image copyright Geograph/MickLobb

Hanes morwol Cymru?

Dwi'n ymwneud llawer â'r Ymddiriedolaeth Treftadaeth Morol yng Nghymru, ac yn y rôl dwi'n cyfarfod ac yn trafod ag arbenigwyr yn y maes o bob cwr o'r wlad, ac rwy'n siarad drostyn nhw gymaint â fi fy hun yma.

Wrth i chi fynd i mewn i'r Amgueddfa, drwy'r drysau gwydr, mae cyntedd anferthol o'ch blaen, sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd i arddangos creiriau hanesyddol.

Ond, rwy'n edrych am yr adran forwrol, yn gofyn am gyfarwyddiadau, ac yn cael fy anfon i fyny'r grisiau, i adran llai na'r disgwyl. Dyma leoliad hanes morwrol Cymru, a dwi'n teimlo'n siomedig!

Rhywsut, mae maint yr adran forwrol yn yr amgueddfa dipyn llai na'r adrannau eraill - fel petai'n rhyw chwaer fach - bron wedi'i anghofio amdani rhywsut.

Yma does dim o'r creiriau gwych yn crogi o'r to ar weiren, ac yn wahanol i'r adran ddiwydiannol, does dim o'r pethau oedd yn cael eu defnyddio gan ein cyndeidiau. I ddweud y gwir, does dim creiriau o unrhyw faint i dystio mai hyn yw hanes morwrol Cymru.

Image copyright Geograph/MickLobb
Image caption Replica o locomotif stêm Richard Trevithick

Gwahaniaeth rhwng treftadaeth a hanes

Gan gerdded i mewn ymhellach, mae desg ddigidol o fy mlaen sydd â droriau a botymau sy'n datgelu ychydig bach o hanes, ac yna mae sgriniau gyda thri fideo yn cael eu chwarae drosodd a throsodd!

Yn sefyll yno dwi'n ymddiddori yn yr ychydig wybodaeth sy'n cael ei gynnig am Gaerdydd, Abertawe ac Aberdaugleddau, gan ddangos fod y tair yn ganolfannau pwysig yn hanes diwydiannol Cymru ar adegau gwahanol. Mae fy sylw'n cael ei gymryd gan flwch mawr gwydr sy'n arddangos modelau bychain o gychod i gyfleu ein hanes morwrol.

Pan ofynwyd i mi 'sgrifennu'r darn yma, fe oedais. Ie, fi yw Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Morol yng Nghymru, ond dydi fy marn i ddim yn un bositif ar y pwnc yma o gwbl. Er hynny, dyma fi yn ei rhannu.

Image caption Richard James, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Morol yng Nghymru

Cefais sgwrs unwaith ag un o'r prif arbenigwyr ar hanes morwrol Cymru. Gofynnais gwestiwn iddo, yn ddiffuant, gan fanteisio ar ei wybodaeth eang: "D'weda wrtha i beth yw'r gwahaniaeth rhwng hanes a threftadaeth?" ac fe atebodd, gan wenu: "Treftadaeth yw'r pethau 'dych chi'n eu teimlo yn eich llaw, hanes yw beth a ddigwyddodd go iawn".

Felly, rwy'n dadlau ein bod ni'n edrych ar gynnwys yr adeilad hyfryd yma drwy lygad treftadaeth yn hytrach na mewn cyd-destun hanes.

Stori hir a chymhleth

Rydyn ni'n falch o'n hanes morwrol, stori sydd yn estyn yn ôl i oresgynwyr Celtaidd a masnachwyr hynafol, drwy ganrifoedd o adeiladu llongau ble roedd teuluoedd o ffermwyr a chymunedau cyfan yn rhannu'r llong.

Dyma stori hir a chymhleth, ac fel pob stori, mae'n cael ei chyfoethogi pan mae creiriau yn dod â'r stori'n fyw. Nid y chwaer fach yw ein hanes morwrol, ond y canolbwynt.

Bu o gymorth i ddatblygu ein diwydiant gan gyfrannu at lwyddiant ein masnachu byd-eang. Pa ddefnydd fyddai mwyn copr Amlwch heb borthladd, heb longau i'w gludo?

Image copyright Geograph/MickLobb

Technoleg yn teyrnasu

Fy marn i am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau felly yw ei fod, o safbwynt treftadaeth morwrol, wedi moesymgrymu i dechnoleg mewn ymgais i ddenu plant ysgol a thwristiaid.

Mae'n colli unrhyw ganolbwynt i greiriau ac ond yn cynnig y cipolwg lleiaf o'n hanes morwrol bendigedig. Does dim stori i gyffroi ein dychymyg, am y bobl, y llefydd a'r cychod a llongau oedd ar y môr. Dydi'r lle ddim yn creu awch a chyffro i fynd i dwrio am fwy o wybodaeth.

Fe ddylai adeilad o'r fath gyffroi'r ymwelydd a'i wneud yn barod i fynd ar fordaith o gwmpas ein gwlad hardd. Heddiw, mewn dyddiau lle mae arian yn bwysicach nac erioed, mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ran i'w chwarae i ddefnyddio ein hanes forwrol i gefnogi economi ein harfordiroedd.


Rhan o hanes Cymru ar goll?

Ydych chi'n cytuno gyda Richard James?

Rhannwch eich sylwadau ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw neu ar e-bostcymrufyw@bbc.co.uk