A55: Ffordd ar gau yn Ynys Môn

Mae rhan o'r A55 yn Ynys Môn wedi cau i'r ddau gyfeiriad ar ôl i lori droi drosodd, gan golli ei llwyth ar hyd y ffordd.

Mae'r digwyddiad, sy'n cynnwys car arall, wedi rhwystro'r ddwy ffordd yn gyfan gwbl.

Mae'r ffordd ar gau rhwng cyffordd 6, A5/A5114 (Llangefni), a chyffordd 5, A4080 (Gwalchmai).

Mae gwyriadau mewn lle, ac mae'r heddlu yn annog modurwyr i ddefnyddio ffordd yr A5 drwy dref Llangefni.

Yn gynharach ddydd Iau, fe gafodd gyrrwr beic modur anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 ym Modedern.

Image caption Fe gafodd gyrrwr beic modur anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 ym Modedern ddydd Iau.