Y grefft o gicio....
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cwpan Rygbi'r Byd: Y grefft o gicio

16 Hydref 2015 Diweddarwyd 18:01 BST

O droed chwith Jonny Wilkinson yn 2003 i gicio metronomaidd Joel Stransky yn 1995 - mae hanes yn dangos bod Cwpanau Rygbi'r Byd yn cael eu hennill gan gicwyr.

Ond beth am y ddefod o baratoi ar gyfer y gic? Be' sy'n gwahaniaethu Biggar o Carter neu Sexton? Fe aeth gohebydd gwadd rhaglen y Clwb Rygbi ar S4C, Dwayne Peel, i gae ymarfer y Gleision i drafod paratoadau maswr Cymru Rhys Patchell.

Mae'r Gleision yn chwarae Munster yn y PRO12, ddydd Sadwrn 17 Hydref - y gêm yn fyw ar S4C o 13:15.

Image copyright BBC Sport
Image caption Aeth Dwayne Peel i gae ymarfer y Gleision i drafod paratoadau maswr Cymru Rhys Patchell