Creu 100 o swyddi newydd ym Mlaenau Gwent

Safle Zorba Delicacies Image copyright Google
Image caption Mae gan Zorba Delicacies safle ar Stad Ddiwydiannol Rasa yng Nglyn Ebwy yn barod

Mae cwmni bwyd wedi dweud y bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ffatri £9m ym Mlaenau Gwent.

Ar hyn o bryd mae Zorba Delicacies yn cynhyrchu cawl a sawsiau ar eu safle ar Stad Ddiwydiannol Rasa, Glyn Ebwy.

Bydd y ffatri newydd yn Nhredegar.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Chris Nash fod angen ehangu yn yr ardal oherwydd "gweithwyr o ansawdd uchel".