Priodi o'r diwedd i ferch o Lanuwchllyn

Lliwen a Gareth Image copyright AFP
Image caption Lliwen a Gareth ar ddiwrnod eu priodas yn Iwerddon.

Mae cwpwl fethodd â phriodi yng Nghymru 'nôl yn yr haf oherwydd problemau fisa bellach wedi priodi yn Iwerddon.

Roedd Lliwen Roberts, 28 oed, o Lanuwchllyn yn gobeithio priodi ei chariad Gareth MacRae, 30 oed o Seland Newydd, ym mis Gorffennaf, ond gwrthododd yr awdurdodau yr hawl i Mr MacRae gael aros yn y wlad.

Er mwyn iddyn nhw allu byw gyda'i gilydd, penderfynodd y ddau symud i Tipperary yn Iwerddon, ar ôl i Gareth gael fisa yno.

Priododd y ddau mewn seremoni dawel yn nhre Nenagh yn Tipperary ar 9 Hydref.

Cyhoeddodd Lliwen Gwyn MacRae'r newyddion da ar Facebook a diolchodd am bob cefnogaeth y maen nhw wedi ei gael dros y misoedd diwethaf.

Image copyright Lliwen MacRae

Straeon perthnasol