Taekwondo: Aur i Jade Jones

Jade Jones Image copyright PA

Mae'r bencampwraig Olympaidd Taekwondo, Jade Jones, wedi ennill ei chystadleuaeth gyntaf ym Mhrydain ers Llundain 2012 gyda buddugoliaeth yn Grand Prix Taekwondo y Byd ym Manceinion.

Roedd y Gymraes, 22, ar ei hôl hi o 4-0 yn erbyn Eva Calvo Gomez o Sbaen, ond llwyddodd i frwydro'n ôl i ennill o 14-4 a sicrhau'r teitl yn y categori dan 57kg.

Mae Jones eisoes wedi sicrhau ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd nesaf yn Rio.

Dywedodd: "Roeddwn i'n nerfus iawn am ryw reswm, ond roedd rhaid i mi fynd allan a mwynhau.

"Dwi wedi gorffen yn ail yma o'r blaen ond doedd dim siawns fy mod i am wneud hynny eto."