Tryweryn: Cau Ysgol Celyn

Capel Celyn
Image caption Mrs Martha Roberts, prifathrawes Ysgol Celyn, Cwm Tryweryn gyda'i disgyblion olaf

Yn 1963 caeodd drysau Ysgol Celyn, Cwm Tryweryn am y tro olaf cyn i'r loriau mawrion a'r peiriannau gyrraedd i baratoi'r gwaith o godi'r gronfa ddŵr. Fel y gwelwch yn y llun, dim ond ychydig o ddisgyblion, rhwng pump a 10 oed, oedd gan Mrs Martha Roberts, y brifathrawes, o dan ei gofal.

Fel rhan o dymor o raglenni ar BBC Radio Cymru i nodi 50 mlynedd ers boddi Capel Celyn, yn Darlun Tryweryn, fe aeth Dei Tomos a'i dîm cynhyrchu ati i ail-greu y llun uchod a hel atgofion y disgyblion am eu dyddiau olaf yn yr ysgol gyda'r diweddar Mrs Roberts.


Tryweryn Evans: "Dwi'n cofio cerdded a nain yn d'eud fydda ni ddim yn g'neud hyn yn hir iawn eto, a fi ddim yn siwr pam."

Elwyn Rowlands: "Anaml iawn oeddan ni yn gadael Capel Celyn. Mynd ar y trên i Bala weithia' i dorri 'ngwallt."

Aeron Prysor Jones: "Fi oedd yr hynaf pan gaewyd yr ysgol. Ro'n i'n 10 oed ac ro'dd yr 11+ adeg hynny. Yn lle 'mod i'n symud i ysgol gynradd arall am flwyddyn ges i gyfle sefyll yr 11+ flwyddyn yn gynnar... a screpio drwadd."

Image copyright Britain on Film
Image caption Rhai o'r plant ar ddiwrnod ola' Ysgol Celyn

Eurgain Prysor Jones: "Mi gawsom ni addysg tu hwnt i'r bocs. Bydda' Mrs Roberts yn dysgu pob dim i ni. Sut i fwyta'n cinio, ble i osod cyllyll a ffyrc, hyd yn oed sut i ffonio o giosg rhag ofn ein bod ni ar goll. 'Push Button A' a 'Push Button B' oedd hi bryd hynny. Doeddan ni ddim yn cael ymarfer corff achos bod yr ysgol ar lethr ond roedden ni yn cael mynd am dro i Gwm Croes. Ar y ffordd yno byddai Mrs Roberts yn dysgu enwau'r coed i ni."

Aeron Prysor Jones: "Mae gen i atgofion hapus iawn o'r ysgol, roedd hi'n gonfensiynol iawn o ysgolion yr oes. Byddai pobl iechyd a diogelwch heddiw yn gwaredu petai nhw'n gweld beth oedd yn mynd ymlaen yno. Roedd 'na stôf ynghanol yr ystafell a'r disgybl hynaf yn nôl glo i'w rhoi arni. Yn ystod cyfnod adeiladu'r argae roedd 'na lwch mwyaf dychrynllyd pan oedd hi'n sych, a mwd mwyaf melltigedig pan oedd hi'n wlyb."

Lowri Jones: "Dwi'n cofio sŵn y peiriannau wrth iddyn nhw basio'r ysgol. Ro'n i'n bump oed. Dwi'n cofio stepiau'r ysgol - roedd gen i goesau byr a'r stepiau yn fawr."

Rhodri Jones: "Dwi'n cofio'r diwrnod olaf yn yr ysgol. Ma' hwnna wedi ei serio ar fy meddwl i. Dwi'n cofio Mrs Roberts yn d'eud wrthan ni am roi'r cadeiriau ar ben y byrddau a d'eud ein gweddi fel arfer, a d'eud wrthom ni am gerdded allan yn barchus.

"Wrth i ni gerdded allan yn barchus mewn un rhes, a Mrs Roberts wrth y drws, roedd y dynion- gweithwyr y dam, yn barod i fynd i symud i mewn. Fel roeddan ni'n cerdded i fyny'r cwm, naethon ni droi rownd ac roedd y bulldozers wedi chwalu'r ysgol.

"Doedden ni ddim wedi tynnu dim byd oddi yno. Roedd y llunie yn dal ar y wal, y desgie, y pensilie a'r bwrdd du. Aethon nhw drwyddo fo heb ddim parch o gwbl. Diwrnod wedyn ro'dd na goelcerth anferth yno."

Eurgain Prysor Jones: "Pan gaewyd yr ysgol dyna oedd y diwrnod ola' i ni fel plant ga'l bod efo'n gilydd. Unwaith bod yr ysgol wedi cau, roedd rhai ohonom ni yn symud i Ysgol Cwmtirmynach a finnau oedd yr unig un yn mynd i ysgol Bala, i ysgol lle ro'n i'n 'nabod 'run enaid byw ar wahân i Mrs Roberts, y brifathrawes ddaeth yno i ddysgu.

Image copyright Casgliad y Werin
Image caption Y gwaith o godi'r cyrff o fynwent Capel Celyn

"Pan chwalwyd y cartrefi roedd pawb yn symud i bob rhan, rhai i fyw i Frongoch, rhai yn mynd i fyw i Ysbyty Ifan. Roedden ni yn mynd i ochre Llidiardau o'r cwm. Roedd pobl yn teimlo bod pob peth oedd yn angor ym mywyd plentyn yn cael ei golli.

"Roeddech chi'n colli cymdeithasu, colli'r ysgol, roeddech chi'n colli'ch ffrindie, roeddech chi'n colli'ch cartre. Roedd o'n fyd ansicr, ofnadwy.

"Dwi'n cofio gweld codi'r cyrff o'r fynwent. Daeth jac codi baw a lori rags i'r pentre. Roeddech chi'n cael dewis os oedd ganddoch chi deulu wedi eu claddu yno - un ai gadael y cyrff, codi'r cyrff a'u hail-gladdu nhw, neu fynd â'r cerrig beddi a'u gosod yn rhywle arall. Ro'n i'n medru gweld hyn yn digwydd o ffenest y llofft.

"Mi ro'dd y JCB yn codi esgyrn fan hyn ac esgyrn fan draw a'u rhoi ar gefn y lori. Hollol, hollol ddi-barch a di-urddas."

Image copyright David Neale/Geograph
Image caption Llyn Celyn heddiw yng nghysgod yr Arenig Fach

Eurgain Prysor Jones: "Pan mae'r llyn yn mynd i lawr mae 'na rai pobl yn dod atom ni a d'eud wrthan ni 'dydio'n braf bod yr hen adfeilion i'w gweld?'. Ond i ni, nid Celyn ydi o. Mae'r lle yn hagr ac yn hyll.

"Petai hyn wedi digwydd heddiw byddai trigolion y cwm wedi eu cynghori a chael cyngor 'Post Traumatic Stress' oherwydd y ffordd y cafon nhw eu trin."


Gwrandewch ar atgofion disgyblion olaf Ysgol Celyn yn 'Darlun Tryweryn' ar BBC Radio Cymru

Cliciwch i weld fideo byr o ail-greu'r llun

Image caption Disgyblion olaf Ysgol Celyn ger y llyn ym Medi 2015: (Cefn) Elwyn Rowlands, Eurgain Prysor Jones ac Aeron Prysor Jones (Blaen) Lowri Jones, Rhodri Jones, Dilys Evans, Tryweryn Evans, Deiniol Jones a John Evans