Gwesty yn Abertawe yn prynu pysgodyn anferth

Lleden y môr Image copyright Wales News Service/Jaggery/Geograph

Mae gwesty yn Abertawe wedi prynu lleden y môr anferth gafodd ei ddal gan bysgotwyr oddi ar arfordir Norwy.

Cafodd y pysgodyn, sydd bron i bum troedfedd o hyd ac yn pwyso 50 pwys (22.6kg), ei arddangos ym Marchnad Abertawe dros y penwythnos.

Dywedodd perchennog stondin bysgod yn y farchnad, Adrian Coakley-Greene: "Mae'n fwystfil anferth. Roedd yn rhaid i ni ei glymu o drawst yn y to gan ei fod mor fawr."

Cafodd y lleden ei brynu gan Westy Morgan's yn y ddinas er mwyn ei gynnig ar y fwydlen i gwsmeriaid.