Mesur drafft Cymru: Beth i'w ddisgwyl?

fflagiau Cymru Jac yr Undeb

Yng nghyfarfod wythnosol cabinet llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw, fe fydd yna dipyn o sylw i Gymru.

Ar ôl misoedd o waith technegol a ffraeo gwleidyddol, fe fydd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn cyflwyno manylion Mesur Drafft Cymru newydd.

Sail y mesur hwnnw fydd cytundeb trawsbleidiol Dydd Gŵyl Dewi rhwng y pedair plaid sydd wedi eu cynrychioli ym Mae Caerdydd - y Ceidwadwyr, Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae'r cytundeb yn golygu mwy o gyfrifoldeb i'r Cynulliad, mwy o benderfyniadau'n cael eu cymryd yng Nghymru a mwy o gyfle i'r Cymry i alw'u gwleidyddion i gyfrif," meddai David Cameron wrth gyhoeddi'r cytundeb yn Stadiwm y Milieniwm.

Ynni, trafnidiaeth, datganoli...

Felly, beth allwn ni ddisgwyl yn y mesur?

Wel, pwerau dros brosiectau ynni sy'n cynhyrchu hyd at 350 megawat o bŵer a'r gallu i drwyddedu prosiectau ffracio.

Bydd cyfrifoldeb dros rannau o bolisi trafnidiaeth, er engrhaifft, rheoleiddio tacsis a gosod cyfyngiadau cyflymder, yn cael eu datganoli.

Fe fydd trosglwyddo trefniadau etholiadol i Fae Caerdydd yn galluogi'r Aelodau Cynulliad (ACau) i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer etholiau'r Cynulliad.

Bydd yna bŵer i alw'r Cynulliad yn Senedd go iawn a chynyddu nifer yr ACau.

Ond conglfaen y mesur fydd creu model newydd o ddatganoli.

Hyd yn hyn, mae pwerau penodol wedi eu datganoli i Fae Caerdydd ond bydd y newid arfaethedig yn golygu y bydd popeth sydd wedi ei hepgor o'r mesur wedi ei ddatganoli.

Mae hynny wedi arwain at ffrae rhwng y ddwy lywodraeth naill ben yr M4.

Gwanhau pwerau'r Cynulliad?

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn pryderu bod y rhestr ar hyn o bryd o bwerau sy'n aros yn San Steffan yn gwanhau pwerau'r Cynulliad.

Dyna pam, meddai Carwyn Jones ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, ei fod e wedi galw am ohirio cyhoeddi'r mesur.

Dywedodd Mr Jones: "Be oedden ni mo'yn ei weld oedd gohirio am gwpl o fisoedd er mwyn ei gael e'n iawn. Mae na lot fawr o waith i'w wneud ar y mesur o'r hyn y'n ni wedi ei weld - mae'n anodd iawn gwneud hynny mewn amser byr.

"Roedden ni am weld gohirio am gwpl o fisoedd ac wedyn cyhoeddi - doeddwn i ddim mo'yn bod e'n mynd am flynyddoedd."

'Edrych am frwydr'

Ond wfftio hynny mae'r llywodraeth Geidwadol a Swyddfa Cymru, sydd wedi bod yn benderfynol nad ydyn nhw am weld oedi yn y broses.

Yn ôl Stephen Crabb, edrych am frwydr cyn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf mae rhai gwleidyddion.

Ac mae ei ddirprwy yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns AS, yn gobeithio y bydd y mesur hwn yn dod a'r dadlau cyfansoddiadol i derfyn.

"Dyw'r cyhoedd ddim eisiau gweld unrhyw fath o ddadlau cyfansoddiadol eto - rydyn ni wedi cael pedwar mesur Cymru fel mae hi.

"Mae hwn yn setlaid parhaol ac yn rhoi llawer mwy o gyfrifioldeb ac yn rhoi llawer mwy o gyfle newydd i Lywodraeth Cymru.

"Dwi wirioneddol yn gobeithio y gwnan nhw dderbyn hwn yn bositif iawn yn y ffordd y mae e'n cael ei gynnig," meddai Mr Cairns.

Thema'r llywodraeth Geidwadol wrth gyflwyno'r mesur drafft heddiw fydd 'Cymru gryfach o fewn Teyrnas Unedig gryfach'.

Ond ar hyn o bryd, does yna fawr o gytundeb ar feinciau'r gwrthbleidiau mai dyna fydd gwir effaith y mesur.