Hanner canrif ers agor argae Tryweryn

Protestio ar ddiwrnod agor yr argae yn swyddogol ar 21 Hydref, 1965 Image copyright LLGC
Image caption Protestio ar ddiwrnod agor yr argae yn swyddogol ar 21 Hydref, 1965

Hanner canrif union yn ôl fe gafodd argae Tryweryn ei agor, wedi i bentref Capel Celyn a rhan o Gwm Tryweryn gael eu boddi i gyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn i'r cynllun.

Cafodd 70 o bobl a phlant eu gorfodi i adael eu cartrefi, a bu'n rhaid ffarwelio gyda'r ysgol, y capel a'r ffermydd. Cafodd 12 o deuluoedd eu symud o'u tai er mwyn adeiladu'r argae newydd.

Mae'r dadleuon am yr hyn a ddigwyddodd i Gwm Celyn yn cael eu gweld gan lawer heddiw fel y gwreichion a daniodd yr ymgyrchoedd iaith yn ystod y 1960au a'r 70au, ac yn ganolbwynt i genedlaetholdeb ar y pryd ac ers hynny.

Dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones wrth raglen y Post Cynta ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher: "Mae sarhad Tryweryn yn dal yn fyw yn ein cof fel cenedl. Yn sgil datganoli, mae gan Gymru ei llais cryf a phendant ei hun, yn wahanol i'r hyn oedd yn bodoli hanner canrif yn ôl. Fe fyddwn ni'n parhau i sefyll yn gadarn dros Gymru ar y materion sy'n bwysig i ni fel cenedl."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Lluniau drôn o'r llyn 50 mlynedd wedi'r boddi

Un sydd yn cofio bywyd yng Nghwm Celyn cyn i'r pentref gael ei foddi ydi Eurgain Prysor Jones. Dim ond dwy oed oedd hi'n 1955 pan gyhoeddwyd y newyddion fod y pentref dan fygythiad.

"Roedd yn gymdeithas hapus iawn," meddai. "Roedd pawb yn adnabod ei gilydd ac roedden ni'n arfer cerdded i dai plant eraill i chwarae."

Image caption Yn dair oed, ymunodd Eurgain Prysor mewn protest yn Lerpwl yn erbyn y cynllun i foddi Cwm Celyn.

"I ni fel plant roedd yn gyfnod anesmwyth iawn. Doedden ni ddim yn sylweddoli'n llawn beth oedd yn digwydd ond roedden ni'n gwybod y bydde'n cartref ni'n cael ei golli, y bydde'n ysgol yn cael ei cholli, y bydde'n capel yn cael ei golli, ac fe fydde'n ffrindiau ni'n cael eu symud i ardaloedd gwahanol."

Am naw mlynedd fe frwydrodd y pentrefwyr i achub eu cartrefi.

Ym mis Tachwedd 1956, Eurgain oedd yr aelod ieuengaf o'r protestwyr aeth ar orymdaith i Neuadd y Ddinas, Lerpwl.

"Roeddwn i'n dair oed ac roedd y ddynes hynaf dros 80 oed. Roedd gen i boster anferth i'w gario oedd yn fwy na fi, a dweud y gwir.

"Roedd yr ymateb a gawson ni yn Lerpwl yn warthus. Roedd pobl yn poeri ac yn taflu llysiau wedi pydru ata ni. Roedd yn siom enfawr."

Image copyright LLGC
Image caption Teulu'n gadael Cwm Celyn am y tro olaf

Ond er bod boddi Cwm Celyn yn garreg filltir nodedig i lawer, nid pawb sydd o'r farn fod y digwyddiad yn un oedd yn gyfrifol am weddnewid gwleidyddiaeth yng Nghymru am byth, gan arwain yn y pen draw at ddatganoli.

Yn ôl cyn brif weinidog Cymru, Rhodri Morgan, mae'r hyn ddigwyddodd ar y pryd wedi tyfu'n rhan o chwedloniaeth genedlaetholgar ei naws.

"Rwy'n credu fod na ychydig o greu chwedloniaeth genedlaetholgar yma," meddai. "Mae'r gofod amser rhwng Tryweryn a sefydlu'r Cynulliad yn rhy hir i wneud y cysylltiad yna. Nid ydw i'n cofio'r peth yn cael ei drafod unwaith yn ystod refferendwm '97.

"Nid ydw i'n credu ei fod wedi cael effaith ar dde Cymru achos roedd y pryderon yn rhai tra gwahanol. Roedd Tryweryn yn fater eilradd gan ei fod yn gyfnod o adeiladu argaeau. Roedd pob dinas fawr yn adeiladu argae yn rhywle.

Image caption Rhodri Morgan, cyn brif weinidog Cymru

Deugain mlynedd ers agor yr argae, yn 2005 fe wnaeth Cyngor Dinas Lerpwl ymddiheuro'n swyddogol am yr hyn a ddigwyddodd yn Nhryweryn, gan ddweud: "Rydyn ni'n sylweddoli'r gofid hanner can mlynedd yn ôl pan gafodd Cwm Tryweryn ei drawsnewid yn argae i helpu i gwrdd ag anghenion dŵr Lerpwl.

"Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw ansensitifrwydd gan y cyngor yr adeg honno ac yn gobeithio y gellir adfer y berthynas hanesyddol a chadarn rhwng Lerpwl a Chymru yn llwyr."

I'r plant oedd yn gorfod byw trwy'r profiad ar y pryd, fel Eurgain Prysor Jones, roedd yn amser "trist a dychrynllyd iawn iawn".

"Dwi'n meddwl petai'n digwydd heddiw fe fydde ni'n derbyn cwnsela am effaith trauma," meddai.

Er gwaethaf yr holl brotestio ffyrnig yn lleol a thrwy Gymru, dros gyfnod o 10 mlynedd fe wagwyd y cwm, fe adeiladwyd yr argae, fe adawodd y trigolion eu tai, ac ar 21 Hydref 1965 fe agorwyd yr argae yn swyddogol.

Fel rhan o dymor o raglenni ar BBC Radio Cymru i nodi 50 mlynedd ers boddi Capel Celyn, yn Darlun Tryweryn, fe aeth Dei Tomos a'i dîm cynhyrchu ati i ail-greu y llun isod a hel atgofion y disgyblion am eu dyddiau olaf yn yr ysgol gyda'r diweddar Mrs Roberts.

Image caption Mrs Martha Roberts, prifathrawes Ysgol Celyn, Cwm Tryweryn gyda'i disgyblion olaf

Straeon perthnasol