Carcharu dau frawd am dros 30 mlynedd am ladd menyw o Gaerdydd

Sameena Imam Image copyright West Midlands Police
Image caption Roedd Sameena Imam yn dod o Gaerdydd

Yn Llys y Goron Birmingham mae dau frawd wedi eu dedfrydu i o leiaf 30 mlynedd o garchar am lofruddio menyw o Gaerdydd.

Fe gafodd y rheithgor Roger Cooper, 41 oed, a David Cooper, 39 oed, yn euog o lofruddio Sameena Imam ddydd Mawrth.

Cafwyd hyd i gorff Ms Imam, 34 oed, wedi ei gladdu mewn rhandir yng Nghaerlŷr ym mis Ionawr wedi i glorofform ei lladd.

Roedd hi wedi bod mewn perthynas â Roger Cooper ers dwy flynedd, ac wedi ei herio i adael ei bartner hirdymor.

Fe glywodd yr achos fod Roger Cooper wedi treulio tua mis yn cynllunio i ladd Ms Imam - un o dair o gariadon oedd ganddo - er mwyn ei rhwystro rhag datgelu'r berthynas.

Fe brynodd y brodyr fetelau gwenwynig, dod o hyd i fedd a chyfathrebu mewn negeseuon testun, gan ddefnyddio cod oedd wedi ei selio ar Star Wars cyn lladd Ms Imam.