Cwest i drychineb Llanberis: Heb sylweddoli'r peryglon

Llanberis
Image caption Rhaeadr Ceunant Mawr lle oedd y ddau'n nofio

Mae cwest yng Nghaernarfon wedi clywed fod dau ddyn, oedd wedi boddi mewn llecyn poblogaidd yn Llanberis, heb sylweddoli'r peryglon wrth nofio o dan raeadr yn gynnar un bore.

Dywedodd Prif Grwner Gogledd-Orllewin Cymru Dewi Pritchard Jones y byddai'n ysgrifennu at awdurdodau lleol yn gofyn iddyn nhw ystyried codi arwyddion i rybuddio pobl rhag nofio ger rhaeadr Ceunant Mawr.

Bu farw Steffan Robert Vernon, 33 oed o Gaernarfon, ac Alex Hadley, 21 oed o Ddinorwig, ar 7 Mehefin.

Cofnododd y crwner reithfarn o farwolaeth ddamweiniol.

Roedd y ddau wedi mynd am dro tua 07:00 o dŷ ffrind yn Llanberis gyda thri arall ar ôl noson yn yfed a chymdeithasu.

Image caption Y gwasanaethau brys ger y rhaeadr

Archwiliad post mortem

Dangosodd canlyniadau post mortem fod olion y cyffur cocên yng nghyrff y ddau ac roedd Vernon wedi cymryd Ecstasi.

Roedd lefel yr alcohol yng nghorff Vernon dros yr hyn sy'n cael ei ganiatáu i yrru cerbyd.

Dywedodd y patholegydd Dr Mark Lord: "Ni fyddai'r ddau wedi cael amser i ymateb. Dydw i ddim yn meddwl y byddai'r ddau wedi dioddef."

Clywodd y cwest fod Vernon wedi mynd i mewn i'r dŵr cyn Hadley.

Dywedodd Barnaby Lloyd Foster sut yr aeth i mewn i'r dŵr i geisio helpu ei ffrindiau pan sylweddolodd eu bod mewn trafferth, cyn iddo ddechrau dioddef o effeithiau'r oerfel ei hun.

Gwasanaeth achub

Galwodd ffrind arall, Helena Sanson, am gymorth Gwasanaeth Achub Mynydd Llanberis.

Cafodd Foster ei achub ond boddodd y ddau arall.

Dywedodd teuluoedd y dynion wrth y crwner nad oedd unrhyw arwyddion mewn lle i rybuddio pobl am y peryglon ar y pryd ac na fyddai'r ddau wedi mynd i'r dŵr petaen nhw'n sylweddoli fod y dŵr dros naw metr o ddyfnder.

Esboniodd y crwner na fyddai modd gosod arwyddion ger pob rhaeadr yn Eryri ond y byddai'n ysgrifennu at yr awdurdodau, yn gofyn am arwyddion ger Ceunant Mawr gan fod "y rhaeadr mor agos i bentref Llanberis."

Image caption Y gwasanaethau brys ger lleoliad y digwyddiad