Rhoi llwyfan i leisiau'r gogledd

Evelyn Williams, cyflwynydd Awr y Plant

Dechreuodd cyfnod newydd o ddarlledu yn y Gymraeg pan gafodd canolfan gyntaf y BBC yng ngogledd Cymru ei hagor yn 1935. Cyn bennaeth BBC Bangor, R Alun Evans, sy'n ystyried pa wersi sydd i'w dysgu ers sefydlu canolfan Bryn Meirion 80 mlynedd yn ôl, a hynny wedi brwydr hir.


Problemau technegol

"Insurmountable technical difficulties." Dyna oedd tirwedd fynyddig y gogledd i dechnegwyr cynnar y BBC. Felly, nid heddiw'n unig y cwyd y gri fod 'popeth yn mynd i Gaerdydd.'

Ac nid yn nhermau darlledu yn unig y clywir y gri honno.

Fe ddywedodd cyfarwyddwr presennol BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wrth Glwb Busnes Gogledd Cymru ei fod "yn ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn y gogledd yn meddwl bod BBC Cymru'n gallu canolbwyntio'n ormodol ar y de."

I raddau helaeth fe gyfyd hynny oherwydd natur metropolaidd y cyfrwng. Rhaid rhoi gwerth am arian. Mater o gyfrif pennau yw hi wedyn a chanolbwyntio adnoddau er mantais i drwch y boblogaeth. Dyw'r pwrs ddim yn ddiwaelod.

Canlyniad codi'r trosglwyddydd cyntaf yn Llundain oedd bod rhai miliynau o bobl yn clywed y rhaglenni.

Y datblygiad nesaf oedd codi trosglwyddydd yn y canoldir i ateb poblogaeth fawr Birmingham. Yna, Manceinion. Erbyn hynny roedd yr Albanwyr a'r Cymry yn cwyno.

Cafodd yr Alban drosglwyddydd (wedi'r cyfan, fedrai John Reith ddim anwybyddu ei bobl ei hun!). A thrwy osod trosglwyddydd yng Ngwlad yr Haf, yn Washford Cross, roedd modd ateb gofyn de Cymru a gorllewin Lloegr.

Darlledu o'r Ynys Werdd

Am y gogledd, cadarnle tybiedig yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, doedd agor stiwdio ym Mangor yn ddim gwarant y byddai pobl y gogledd yn clywed cynnyrch y stiwdio honno.

Stori na ddylid ei anghofio oedd cyfraniad stiwdio 2RN yn Nulyn ddiwedd dauddegau'r ganrif ddiwethaf.

Criw o Gymry yn croesi o Gaergybi i Iwerddon bob nos Wener i ddarlledu o Ddulyn er mwyn i'r gogledd glywed adloniant Cymraeg o drosglwyddydd yr Ynys Werdd.

Image caption Cyn agor trosglwyddydd Penmon, roedd mynyddoedd Eryri'n cael y bai am yr anhawster i ddarlledu yn Gymraeg yn y gogledd

I oresgyn yr 'anhawsterau technegol' bondigrybwyll, roedd angen trosglwyddydd. Ac o'r diwedd fe'i cafwyd - ym Mhenmon, er nad hyd nes 1937.

Bangor yn 'profi ei werth'

Hen hanes yw hynny. Fe brofodd Bangor ei werth o gyfnod Sam Jones hyd heddiw. Yn y gyfrol 'Broadcasting and the BBC in Wales' dyma farn yr awdur, Dr John Davies: 'relative to its output Bangor must be the most under-resourced of all the Corporation's centres of production.'

Cyfrinach Sam Jones oedd cael pobl y Gogledd i weld gorsaf Bangor fel rhywbeth oedd yn perthyn iddyn nhw. Doedd hynny ddim yn bosib mewn cymunedau fel Abertawe a Chaerdydd.

Nid yn unig roedd prif artistiaid adloniant Lloegr wedi eu lleoli ym Mangor o 1940-43 [ITMA, Tommy Handley ac ati] ond o'r un ganolfan y daeth llwyddiannau mawr fel 'Y Noson Lawen' yn Gymraeg.

Mae technoleg heddiw mor hyblyg. Yn nhermau 'newyddion' dyw'r gwyn ddim bellach yn dal dŵr. Gellir darlledu o rywle ar fyr rybudd. Ac mae'r hyblygrwydd hwnnw wedi trawsnewid y tirlun.

O hyd, mae'r siwrne o Fangor i Gaerdydd yn parhau yn fyrrach na'r siwrne o Gaerdydd i Fangor.

Os mater gweinyddol yw hynny, beth am yr agweddau 'gwleidyddol'? Canolfan newydd i'r BBC ynghanol y ddinas; datblygiadau drama yn y Bae; S4C yn rhan-ddatganoli i Gaerfyrddin.

O gofio gwersi'r gorffennol ac o gydnabod llwyddiant artistig llawer o'r darlledu o Fangor, prin y bydd y BBC am anwybyddu lleisiau'r gogleddwyr, fel y gwnaed tros 12 mlynedd cyntaf darlledu o Gymru.


Bydd R Alun Evans yn rhannu atgofion pellach am BBC Bangor yn:

Rhaglen Dylan Jones, BBC Radio Cymru, Dydd Llun, 2 Tachwedd,