Gwahardd cyn bencampwr dartiau

Richie Burnett

Mae cyn bencampwr dartiau'r byd, y Cymro Richie Burnett, wedi cael ei wahardd am 18 mis.

Dangosodd prawf meddygol mewn gêm gymhwyster Camp Lawn yn Wigan fod olion cocên yn ei gorff.

Mae'r gwaharddiad tan 2 Mai 2016.

Enillodd y dyn 48 oed o Gwm Rhondda deitl y BDO yn 1995 ond nid oedd yn rhan o Bencampwriaeth y Byd yn 2015 oherwydd "rhesymau personol".

Apeliodd yn erbyn y gwaharddiad ond doedd e ddim yn llwyddiannus.

Fel arfer, fe fyddai wedi cael ei wahardd am ddwy flynedd ond dywedodd y tribiwnlys fod amgylchiadau lliniarol.